Alec Baldwin 'i ymladd cyhuddiadau cyfreithiol' yn achos marwolaeth cydweithiwr
Mae cyfreithwyr ar ran yr actor Alec Baldwin wedi dweud y bydd yn brwydro'r cyhuddiadau yn ei erbyn yn achos marwolaeth cydweithiwr ar leoliad ffilmio yn 2021.
Ddydd Iau fe gyhoeddwyd y byddai Mr Baldwin a dau arall yn wynebu cyhuddiad o ddynladdiad anfwriadol yn achos marwolaeth Halyna Hutchins, oedd yn 42 oed.
Bu farw Ms Hutchins ar leoliad ffilm 'Rust' tra'r oedd hi'n gweithio fel cyfarwyddwr lluniau pan gafodd dryll gyda bwled 'byw' yn hytrach na un ffug ei danio.
Mae ei theulu wedi croesawu'r newyddion am y cyhuddiadau, ond mae cyfreithwyr ar ran Alec Baldwin wedi dweud fod y cyhuddiadau'n "anghyfiawnder cyfreithiol".
Ychwanegodd llefarydd cyfreithiol Mr Baldwin nad oedd gan yr actor reswm i gredu bod bwled 'byw' yn y dryll cyn iddo ei danio yn ystod y digwyddiad.
Cafodd cyfarwyddwr y ffilm, Joel Souza, hefyd ei anafu yn ystod y digwyddiad yn New Mexico.