
Uned achosion brys yng Nghaerdydd yn gwegian dan y pwysau medd doctor

Mae un o weithwyr Uned Achosion Brys Ysbyty Athrofaol Caerdydd wedi dweud nad yw hi erioed wedi ei gweld dan gymaint o bwysau.
Mae Dr Katja Empson wedi gweithio ar yr uned ers 14 mlynedd, ond dywedodd wrth ITV Cymru Wales fod ganddi bellach bryderon gwirioneddol am ba mor gynaliadwy yw'r gwasanaeth.
"Mae yna gleifion yn eistedd mewn cadeiriau yng nghorneli’r adran lle ddylen ni wir ddim fod yn gofyn i bobl aros," meddai.
"Pan mae pob un ciwbicl a chornel o'r adran gyda chlaf yn eistedd ynddo, mae eich gallu i reoli'r holl gleifion hynny mewn ffordd ddiogel, gyda thosturi a charedigrwydd yn heriol, yn enwedig tua diwedd shifft glinigol hir."
Fe wnaeth Dr Empson sôn bod y cleifion mwyaf sâl yn mynd drwy'r system yn gyflym, ond bydd eraill yn wynebu oedi hir cyn derbyn triniaeth.
Ar y diwrnodau prysuraf, mae tua 550 o gleifion yn mynd i'r adran frys yn ardal y Mynydd Bychan, Caerdydd dros gyfnod o 24 awr, ond bydd nifer o'r bobl hynny yn wynebu cyfnodau aros hir iawn.
Ym mis Tachwedd, cafodd llai na 64% o gleifion oedd yn mynychu adran frys Ysbyty Athrofaol Cymru eu gweld o fewn yr amser targed o bedair awr.
'Gofalus'
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod lefelau uchel o ffliw a Covid wedi gwaethygu'r galw digynsail sydd ar y GIG.
"Rydym ni'n cynllunio ar gyfer y gaeaf drwy'r flwyddyn ac eleni wedi buddsoddi mewn staff ambiwlans newydd, trawsnewid adrannau brys a gwella'r llif drwy ysbytai" meddai llefarydd ar ran y llywodraeth.
"Mae ein staff GIG sy'n gweithio'n galed yn parhau i ddarparu gofal o ansawdd uchel i filoedd o bobl bob dydd.
"Mae pawb yn gallu helpu cefnogi'r gwasanaeth iechyd drwy fynd am eu brechiadau pan fyddan nhw'n cael eu gwahodd i wneud hynny ac ystyried yn ofalus lle i fynd i gael gofal. Mi ydan ni'n cynghori unrhyw un sydd â chyflyrau sydd ddim mewn peryglu bywyd i ddefnyddio gwefan 111 GIG Cymru yn y lle cyntaf."
Yng Nghaerdydd, mae datblygiadau arloesol yn digwydd i wella oedi ar draws y system.
Un o'r heriau mwyaf yn y GIG yw oedi trosglwyddo cleifion o’r ambiwlans, sy'n gweld criwiau'n aros i fynd â chleifion i mewn i ysbytai am eu shifft gyfan weithiau.
Fodd bynnag, yn ôl ffigyrau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, ym mis Rhagfyr, cafodd oedi trosglwyddo cleifion yn Ysbyty Athrofaol Cymru eu lleihau bron i draean o'i gymharu â'r adeg yma llynedd.

Er gwaethaf hyn, mae'r ysbyty yn dal i wynebu heriau enfawr o ran prinder gwelyau.
Fis Hydref, cafodd adran ei hagor yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd yn arbennig ar gyfer cleifion sydd ddim angen triniaeth aciwt bellach, ond sydd angen cefnogaeth cyn cael ei rhyddhau’n llwyr o’r ysbyty.
Dywedodd pennaeth gofal intergredig Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Judith Hill: “Diben y ward hon yw ceisio trefnu cynlluniau priodol ar gyfer rhyddhau cleifion sydd wedi’u hoptimeiddio yn glinigol, sy’n golygu bod cyfnod eu gofal aciwt wedi dod i ben, ond mae eu hanghenion yn parhau i fod yn gymhleth.
“Ar hyn o bryd, mae gennym ni nifer fawr o bobl sydd wedi’u hoptimeiddio yn glinigol, ond dyw hynny ddim yn golygu nad oes angen iddyn nhw fod mewn amgylchedd ysbyty.
"They do need to be somewhere we can take that full, comprehensive, multiagency assessment of their needs so we can support them to go home and try our best to prevent any readmission.
“Mae angen iddyn nhw fod rhywle lle gallwn ni roi’r asesiad llawn, cynhwysfawr, amlasiantaethol hwnnw o’u hanghenion er mwyn ein bod ni’n gallu eu cefnogi i fynd adref a cheisio ein gorau i osgoi unrhyw aildderbyniadau i’r ysbyty."