Cronfa Codi'r Gwastad yn ‘hollol lygredig’ medd AS y Rhondda
Mae Aelod Seneddol y Rhondda Chris Bryant wedi dweud fod y modd y mae arian o'r Gronfa Codi'r Gwastad wedi ei ddosrannu ar draws y Deyrnas Unedig yn "hollol lygredig".
Cafodd y gronfa gan Lywodraeth San Steffan ei sefydlu yn 2020, gyda'r bwriad o wario £4.8 biliwn ar brosiectau ar draws y DU.
Cyhoeddwyd ail rownd yr arian heddiw ond mae gwleidyddion wedi beirniadu'r broses o benderfynu lle mae'r arian yn mynd.
Roedd rhai ASau Torïaidd hefyd wedi mynegi siom na dderbyniodd prosiectau yn eu hardaloedd fuddsoddiad o'r gronfa, gan ddweud bod eu cynghorau lleol wedi gweithio’n “galed iawn” ar geisiadau.
Dywedodd AS y Rhondda, Syr Chris, wrth Dŷ’r Cyffredin: “Yn y 18fed ganrif, roedd un o weinidogion y llywodraeth yn arfer sefyll ar ddiwedd y sesiwn seneddol wrth y fynedfa i Neuadd San Steffan a gwobrwyo ASau a bleidleisiodd yn deyrngar gyda’r Llywodraeth drwy gydol y flwyddyn gyda llond llaw o arian parod.
“Dydw i ddim yn ceisio rhoi syniadau i’r Llywodraeth ac rwy’n gobeithio y byddai pawb yn derbyn bod hynny’n gwbl lwgr.”
Ychwanegodd: “Rwyf hefyd yn digwydd meddwl bod gweithrediad y gronfa a gweithrediad cronfa’r trefi yn gwbl lygredig oherwydd nid yw’n seiliedig ar angen, nid yw’n seiliedig ar gymunedau tlotaf y wlad, nid yw’n seiliedig ar angen."
'Chwerthinllyd'
Mynnodd y gweinidog cymunedau Lucy Frazer fod ardaloedd y tu allan i Lundain a’r de ddwyrain wedi derbyn mwy o arian y pen o ail rownd y Gronfa Codi'r Gwastad.
Galwodd Nadia Whittome o’r Blaid Lafur (Dwyrain Nottingham) ar y Llywodraeth i “roi terfyn ar y sioe chwerthinllyd o ffafriaeth a chychwyn ar y gwaith o roi cymorth gwirioneddol i lefydd fel Nottingham".
Ond atebodd Ms Frazer: “Mae’n ddrwg gen i na fu’r ddynes anrhydeddus yn llwyddiannus, ond mae’r ardal gyfan wedi bod yn llwyddiannus.
“Fel y soniais, mae’r ardaloedd y tu allan i Lundain a’r De Ddwyrain wedi derbyn mwy y pen na Llundain a’r de ddwyrain. Byddwn yn argymell ei bod hi'n edrych ymlaen at y drydedd rownd.”
Llun: Chris Bryant. Llun gan Senedd San Steffan/ Andy Bailey.