Dynes o Gymru'n pleidio’n euog i rannu deunydd â grwpiau troseddol
Mae dynes o Gasnewydd a fu’n gweithio i Wasanaeth Erlyn y Goron wedi pleidio’n euog i basio deunydd ymlaen at grwpiau troseddol.
Roedd Rachel Simpson o Gasnewydd yn gweithio fel swyddog cyfreithiol i’r gwasanaeth CPS pan ddigwyddodd y troseddau rhwng 2016 a 2020.
Cafodd y ddynes 39 oed ei harestio gan Tarian, uned Wrthlygredd Heddlu Gogledd Cymru, ym mis Mehefin 2020.
Yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau cyfaddefodd i ddau gyhuddiad o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
Mi wnaeth hi hefyd gyfaddef i 29 cyhuddiad o fynediad heb awdurdod i system gyfrifiadurol.
“Roedd hi’n rheolaidd yn cael mynediad at ddeunydd heb fod unrhyw angen gwneud hynny ac ar ddau achlysur cafodd deunydd sensitif ei drosglwyddo i afael troseddwyr,” meddai Andrew Penhale, Prif Erlynydd y Goron.
Dywedodd eu bod nhw eisoes yn gweithredu er mwyn sicrhau na allai achos o’r fath godi eto.
Cafodd Rachel Simpson ei chadw yn y ddalfa nes y bydd hi’n cael ei dedfrydu ar 3 Mawrth.