Newyddion S4C

Cyhoeddi rhestr enwebiadau Bafta 2023

19/01/2023
S4C

Mae enwebiadau Bafta 2023 wedi eu cyhoeddi ddydd Iau, a'r ffilm All Quiet On The Western Front gan Netflix sydd yn arwain y blaen gyda 14 o enwebiadau.

Mae’r ffilm drawiadol a threisgar yn addasiad newydd o’r nofel a gafodd ei hysgrifennu yn 1928 gan Erich Maria Remarque am brofiadau milwyr o'r Almaen yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Dyma’r ffilm gyntaf i gael 14 neu fwy o enwebiadau Bafta ers The King's Speech yn 2011.

Mae’r ffilmiau The Banshees of Inisherin ac Everything Everywhere All At Once wedi cael 10 enwebiad yr un, gydag Elvis yn dilyn yn agos gyda naw.

Yr enwebiadau uchaf eleni yw:

•    14 - All Quiet On The Western Front
•    10 - Everything Everywhere All At Once, The Banshees of Inisherin
•    9 - Elvis
•    5 - Tár
•    4 - Aftersun, The Batman, Top Gun: Maverick, The Whale and Good Luck to You, Leo Grande

Bydd Gwobrau Ffilm Bafta 2023 yn cael eu cynnal ar 19 Chwefror yn Neuadd Ŵyl Frenhinol Canolfan Southbank yn Llundain. Bydd y seremoni yn cael ei chyflwyno gan Richard E Grant, ac yn cael ei darlledu ar BBC One.

@Netflix

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.