Newyddion S4C

Tywydd gaeafol yn gorfodi ysgolion i gau unwaith eto

19/01/2023
Rhew

Mae rhagor o dywydd gaeafol wedi gorfodi nifer o ysgolion i gau ar hyd a lled Cymru ddydd Iau.

Mae'r mwyafrif o ysgolion sydd ar gau yn ardal Rhondda Cynon Taf, gydag oddeutu 60 o ysgolion yr ardal ar gau o achos amodau rhewllyd a gaeafol.

Mae modd gweld y rhestr gyflawn o'r ysgolion sydd ar gau yn y sir yma.

Hefyd mae nifer o ardaloedd eraill wedi gweld ysgolion yn cau, gan gynnwys yn Sir y Fflint, Gwynedd, Caerffili, Sir Gâr, Ceredigion, Sir Ddinbych, Powys a Chonwy.

Mae rhybudd melyn am eira a rhew yn parhau mewn grym ar gyfer rhannau helaeth o Gymru hyd at 12:00 ddydd Iau.

Bellach mae rhybudd newydd am rew wedi ei gyhoeddi am y rhan helaeth o Gymru o 17:00 nos Iau hyd at 10:00 fore dydd Gwener.

Llun: Ysgol Pant Pastynog 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.