Ethol Edwin Poots fel arweinydd newydd y DUP

Mae Edwin Poots wedi cael ei ethol yn arweinydd newydd y DUP yng Ngogledd Iwerddon.
Daw'r penodiad yn dilyn penderfyniad Arlene Foster i gamu lawr fel arweinydd y DUP a phrif weinidog Gogledd Iwerddon wedi llythyr o ddiffyg hyder ynddi gan aelodau ei phlaid.
Mae'r Belfast Telegraph yn adrodd fod Mr Poots yn awyddus i barhau yn ei rôl fel gweinidog amaethyddiaeth y llywodraeth, a phenodi person arall i fod yn brif weinidog.
Fe gipiodd Mr Poots 19 pleidlais yn yr etholiad, gan guro'r 17 pleidlais i Syr Jeffrey Donaldson.