Newyddion S4C

‘Cwestiynau i Lywodraeth Cymru eu hateb' dros drafferthion Pont y Borth

James Davies AS a Pont y Borth
James Davies AS a Pont y Borth

Mae gan Lywodraeth Cymru “gwestiynau i’w hateb” am y trafferthion diweddar gyda Phont y Borth, yn ôl Is-ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Dywedodd y Ceidwadwr James Davies AS fod angen eglurder gan Lywodraeth Cymru ar bwnc gwaith cynnal a chadw ar y bont.

Ychwanegodd AS Dyffryn Clwyd, sy’n gwasanaethu yn Swyddfa Cymru Llywodraeth y DU, bod angen bwrw ymlaen gyda thrydedd bont dros y Fenai.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi cau'r bont ar frys a hynny mewn ymateb i argyfwng.

Roedd James Davies AS yn ymateb i’r AS Ceidwadol Jerome Mayhew a feirniadodd “ymdriniaeth esgeulus” Llywodraeth Cymru o’r bont yn Nhŷ’r Cyffredin.

Ymatebodd James Davies fod “cwestiynau i'w hateb” am yr amserlen a amlinellwyd yng nghontract cynnal a chadw'r bont, a ddyfarnwyd gan lywodraeth Llafur yn 1998.

Roedd y cytundeb hwnnw meddai wedi ei dyfarnu fel rhan o gontract menter cyllid preifat lle mae cwmnïau preifat wedi'u contractio i gwblhau a rheoli prosiectau cyhoeddus.

Mae cwmniau UK Highways A55 Ltd wedi gweithredu a chynnal a chadw Pont Menai am gyfnod o 30 mlynedd, ers mis Rhagfyr 1998.

Ychwanegodd James Davies fod angen codi cwestiynau yn ogystal am yr oedi wrth adeiladu trydedd groesfan i Ynys Môn.

“Rydw i’n annog Llywodraeth Cymru i gyhoeddi canlyniadau eu hadolygiad o ffyrdd Cymru a pharhau gyda’r gwaith o wella rhwydwaith ffyrdd Cymru.”

‘Fforddiadwy’

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y penderfyniad i gau Pont y Borth mewn ymateb i “argyfwng”.

“Roedd yn rhaid i ni gymryd camau brys er mwyn diogelu’r cyhoedd,” medden nhw wrth Newyddion S4C.

“Rydyn ni’n deall rhwystredigaeth pobol yn dilyn cau’r bont ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gyflymu’r broses o’i hatgyweirio fel bod modd iddi ail-agor pan mae’n saff gwneud hynny.

“Dechreuodd y gwaith o drwsio’r bont fis yma ac mae’n symud ymlaen yn gyflym.

“Mae trydedd groesfan dros y Fenai yn cael ei hystyried fel rhan o’r Adolygiad Ffyrdd, gan gymryd i ystyriaeth ei effaith amgylcheddol a pa mor fforddiadwy yw’r prosiect yng nghyd-destun y sefyllfa economaidd bresennol.”

‘Balch’

Mae'r bont wedi bod ar gau ers mis Hydref ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol yn sgil argymhellion diogelwch gan beirianwyr.

Mewn diweddariad ddechrau’r mis, dywedodd y llywodraeth y bydd y gwaith i ailagor y bont yn dechrau’n fuan, gyda'r gobaith o'i gwblhau "o fewn 4 wythnos, ar yr amod bod y tywydd yn ffafriol."

Bydd y rhaglen waith yn canolbwyntio ar ochr orllewinol y bont cyn symud ymlaen i gwblhau'r gwaith ar yr ochr ddwyreiniol. 

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sy'n gyfrifol am Drafnidiaeth, Lee Waters, ei bod yn "falch ein bod ni, ar y cyd â'n partneriaid, wedi gallu bwrw ymlaen yn gyflym gyda'r gwaith hynod bwysig a chymhleth hwn ar Bont Menai."

Llun: James Davies AS a Pont y Borth

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.