Newyddion S4C

Prif Weithredwr newydd CFfI Cymru yn dechrau yn ei swydd

Mared Rand Jones

Mae Mared Rand Jones wedi dechrau yn ei swydd newydd fel Prif Weithredwr Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Cymru.

Cyn dod i'r swydd hi oedd Pennaeth Gweithrediadau Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

Cafodd ei magu ar fferm laeth ger Llanbedr Pont Steffan a hi yw’r hynaf o bedwar o blant.

Aeth i Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan ac yna Coleg y Drindod, lle enillodd radd yn y Gymraeg ac Astudiaethau Theatr.

Mae’n aelod o Sioe Amaethyddol Llambed, Sioe Ferich Llambed, Clwb Rotari Llambed a Merched y Wawr, Tregaron.

Wrth drafod ei phenodiad i'r swydd newydd, dywedodd Mared: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio fel Prif Weithredwr CFfI Cymru, sefydliad sy’n agos iawn at fy nghalon.

"Mae CFfI yn sefydliad ardderchog ar gyfer pobl ifanc sy’n byw yng nghefn gwlad Cymru sy’n cynnig cyfleoedd diddiwedd i aelodau rhwng 10 a 28 oed ac rwy’n gyffrous i gael gweithio gyda’r aelodau, swyddogion a staff i arwain a gyrru’r mudiad yn ei flaen”.

Dywedodd Cadeirydd y Ffederasiwn, Hefin Evans:

“Mae’n anrhydedd i benodi Miss Mared Rand Jones fel Prif Weithredwr CFfI Cymru. Mae gan Mared digon o brofiad o fewn y mudiad wrth fod yn cyn aelod a cyn trefnydd Sir i Geredigion.

"Gyda’i sgiliau a phrofiad wrth fod yn y mudiad a gweithio yn y RWAS, bydd hi’n dod mewn ag egni ardderchog i ddatblygu gyda’r tîm o staff ifanc a brwdfydrig a swyddogion CFfI Cymru a’r gwaith ardderchog nhw, gan gadw’r mudiad i symud ymlaen”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.