Newyddion S4C

Netflix yn 'gweld gwerth' hybu’r Gymraeg wrth ddarlledu drama S4C

18/01/2023
Dal y Mellt. Llun gan S4C/BBC

Mae Netflix wedi dweud eu bod nhw’n ystyried fod gwerth hybu’r Gymraeg.

Daeth y sylw wrth iddyn nhw gyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu darlledu un o gyfresi S4C - Dal y Mellt, trosiad o nofel o'r un enw - ym mis Ebrill.

Cafodd Dal y Mellt ei ryddhau fel Bocs Set ar S4C Clic a BBC iPlayer yn yr Hydref.

Roedd Benjamin King, Cyfarwyddwr Polisi Cyhoeddus Netflix yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, yn rhoi tystiolaeth o flaen y Pwyllgor Materion Cymreig heddiw.

Dywedodd bod nifer o’u rhaglenni mwyaf llwyddiannus wedi eu creu yng Nghymru, am mai rhaglenni “hynod o benodol yn ddiwylliannol” oedd yn boblogaidd gyda’u gwylwyr.

“Fe allwn ni chwarae rôl gynorthwyol wrth hybu a chadw'r iaith Gymraeg,” meddai.

“Dyna pam ein bod ni wedi penderfynu trwyddedu cynnwys yn yr iaith Gymraeg.  Mae gyda ni isdeitlau yn yr iaith Gymraeg ar rai ffilmiau.

“Mae un bennod o The Crown bron â bod yn gyfan gwbl yn y Gymraeg.

“Dydyn ni ddim eisiau cystadlu yn uniongyrchol gydag S4C sydd â’r Gwaith penodol o gynhyrchu cynnwys yn yr iaith Gymraeg.

“Ond mae modd i ni fod o gymorth wrth ei hybu a helpu iddo gyrraedd cynulleidfa ehangach.”

'Cyffrous'

Mae Dal y Mellt yn dilyn trafferthion y prif gymeriad Carbo wrth iddo gael ei dynnu i fyd o ddrygioni, celwyddau, cyfrinachau a thor-calon. Mae’r gyfres yn cychwyn ar strydoedd cefn a thywyll Caerdydd ac yna’n symud yn ôl ac ymlaen rhwng Caerdydd, Soho, Porthmadog a Chaergybi.

Meddai Siân Doyle Prif Weithredwr S4C: “Dyma newyddion gwych i ddrama yn yr iaith Gymraeg. Mae poblogrwydd dramâu rhyngwladol ar Netflix yn fyd-eang yn profi’r awydd am ddrama gyffrous o safon beth bynnag yw’r iaith. Mae Dal y Mellt (Rough Cut) yn dyst i safon y dalent sy’n cynhyrchu drama yng Nghymru.

“Mae gwerthu cyfres uniaith Gymraeg i ffrydiwr byd-eang mawr fel Netflix yn gosod ein huchelgais i fynd a thalent a a'r iaith Gymraeg i’r byd ac yn creu cyfleoedd cyffrous pellach i S4C.

“Mae ein dramâu Cymraeg yn sefyll ochr yn ochr â rhai gweddill y byd. Mae gan S4C hanes hir o werthu dramâu sydd yn gyd-gynyrchiadau - Y Gwyll (Hinterland), Un Bore Mercher (Keeping Faith) ac Y Golau (Light in the Hall). Maen nhw i gyd yn gynyrchiadau dwyieithog (Saesneg/Cymraeg) gefn wrth gefn sy’n gwerthu i ddarlledwyr a phlatfformau ffrydio rhyngwladol.”

Llun: Dal y Mellt - S4C/BBC

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.