CPD Abertawe allan o Gwpan yr FA
18/01/2023
Mae CPD Abertawe allan o Gwpan yr FA.
Collodd tîm Russell Martin o 2-1 ar ôl amser ychwanegol yn erbyn Bristol City nos Fawrth.
Sgoriodd Mark Sykes i roi Bristol City ar y blaen cyn i Ollie Cooper ei gwneud hi'n gêm gyfartal i'r Elyrch a gorfodi 30 munud o amser ychwanegol.
Er bod Abertawe wedi cael cyfleoedd i sicrhau'r fuddugoliaeth, sgoriodd Sam Bell gan olygu bod yr Elyrch allan o'r Cwpan.
Bydd Abertawe nawr yn gobeithio cael ail hanner cadarnhaol i'r tymor yn y Bencampwriaeth a sicrhau eu lle yn y gemau ail-gyfle.
Llun: CPD Abertawe / Twitter