Pesychau parhaol y gaeaf wedi'u hachosi gan 'un haint ar ôl y llall'
Mae arbenigwr meddygol yn dweud ei fod yn bosib bod y peswch parhaol mae nifer o bobl wedi ei ddioddef dros y gaeaf wedi'i achosi gan "un haint ar ôl y llall."
Dywedodd Yr Athro Kamila Hawthorne, sydd yn gadeirydd Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu, fod doctoriaid wedi sylwi bod pobl yn cymryd llawer mwy o amser nag arfer i wella o heintiau'r gaeaf.
Yn ôl Asiantaeth Iechyd a Diogelwch y DU (UKHSA), mae nifer yr achosion o ffliw a heintiau resbiradol wedi cynyddu i gymharu â blynyddoedd cynt.
Yn ôl yr Athro Hawthorne, un rheswm posib y mae pobl yn parhau i deimlo'n sâl yw eu bod yn dal nifer o heintiau gwahanol, yn hytrach nag un haint difrifol.
Ychwanegodd fod y pandemig a'r cyfnodau clo hefyd wedi cael effaith ar ein systemau imiwnedd.
"Mae rhan fwyaf o'r cyhoedd wedi bod yn ynysu'n gymdeithasol am y ddau aeaf diwethaf ac mae'n ymddangos bod hyn wedi gwanhau eu gallu i wrthsefyll heintiau," meddai.
"Mewn rhai achosion, mae'n fater o gael un haint ar ôl y llall."
"Maen nhw gyd yn wahanol felly dydy gwella o un haint ddim yn golygu bod gennych chi imiwnedd yn erbyn rhai eraill."
Er hyn, dywedodd Yr Athro Hawthorne y bydd rhan fwyaf o bobl yn gwella o'r heintiau gwahanol heb yr angen am gymorth meddygol.