Newyddion S4C

Perygl y gallai ‘o leiaf 30% o byllau nofio Cymru gau’

ITV Cymru 20/01/2023
Nofio

Fe allai o leiaf 30% o byllau nofio ar hyd a lled Cymru orfod cau oherwydd y cynnydd yng nghostau ynni, yn ôl y Corff Llywodraethu Cenedlaethol ar gyfer gweithgareddau dŵr. 

Mae Prif Weithredwr Nofio Cymru, Fergus Feeney, wedi dweud wrth ITV Cymru Wales nad yw gweithredwyr pyllau nofio "yn gallu fforddio gwresogi, goleuo neu gynnal a chadw'r pyllau".

Er gwaetha’r cap ar brisiau gafodd ei gyflwyno gan Lywodraeth y DU'r llynedd, mae gweithredwyr yn ei chael hi'n anodd cadw pyllau ar agor gan fod eu biliau ynni wedi treblu am fod pyllau nofio mor ddibynnol ar ynni.

Mae Ivan Horsfall Turner, Prif Weithredwr Freedom Leisure, ymddiriedolaeth hamdden ddielw sydd o dan fygythiad, wedi dweud bod bil ynni blynyddol y cwmni wedi codi “o £8m i £20m, hyd yn oed gyda’r cap dros dro.”

'Hynod siomedig'

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi Cynllun Gostyngiad Biliau Ynni fydd yn darparu cymorth ariannol ychwanegol i restr benodedig o ‘ddiwydiannau â defnydd dwys o ynni’.

Ond nid yw pyllau nofio a chanolfannau hamdden ymysg y sefydliadau sydd yn gymwys am gefnogaeth ariannol.

Mewn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth y DU, dywedodd Mr Turner: “Rwy’n hynod siomedig gyda’r ffaith bod hamdden oddi mewn i'r sector cyhoeddus wedi’i hepgor o’r rhestr. 

“Mae hamdden yn y sector cyhoeddus yn un o’r sectorau sydd o dan y bygythiad mwyaf gan ein bod ni’n defnyddio ynni yn ddwys iawn, felly mae costau ynni yn rhan fawr iawn o’n costau cyffredinol, yn enwedig mewn canolfannau gyda phyllau nofio.”

'Pecyn cymorth'

Mae canolfannau hamdden wedi bod yn ceisio lleihau costau trwy ostwng tymheredd eu pyllau nofio a thrwy ddiffodd eu goleuadau, ond yn ôl Mr Feeney, Prif Weithredwr Nofio Cymru, nid yw hyn yn ddigon.

Mewn cyfweliad gydag ITV Cymru Wales, dywedodd: “Roeddem yn gobeithio, ynghyd â’n cydweithwyr yn Lloegr a’r Alban, y byddai Llywodraeth y DU yn benodol yn nodi, o safbwynt iechyd meddwl a iechyd corfforol, bwysigrwydd cyfleusterau chwaraeon fel ein un ni. 

“Roeddem yn gobeithio y byddai’n ei gynnwys mewn rhyw fath o fesurau arbennig neu statws gwarchodedig o ran cymhorthdal ynni. Roeddem yn gobeithio y byddai rhyw fath o ymyrraeth ariannol gan Lywodraeth y DU.

“Yn syml, os gall amgueddfeydd a llyfrgelloedd gael statws gwarchodedig a chael cefnogaeth o safbwynt ynni, gyda phwll nofio yn defnyddio 5 gwaith mwy o ynni ar gyfartaledd nag amgueddfa neu lyfrgell, mae'n ddryswch pam na chafodd pyllau nofio eu hychwanegu at y rhestr.”

Ychwanegodd Mr Feeney: “Ni fyddai’n hurt i ddweud bod 50% o’r pyllau hynny sy’n cau byth yn agor eto. I roi hynny mewn i rifau, fe allai 50 pwll yng Nghymru gau a byth agor eu drysau eto.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: “Rydym yn ymwybodol bod ein cyfleusterau chwaraeon ar lawr gwlad yn wynebu cynnydd mewn costau ac fe wnaethom ni ddarparu pecyn cymorth gwerth £18 biliwn i sefydliadau megis clybiau, pyllau, canolfannau hamdden, ysgolion, elusennau a busnesau drwy’r gaeaf.

“Gwnaethom sicrhau bod £1 biliwn ar gael i sicrhau bod y sectorau chwaraeon a chanolfannau hamdden yn goroesi yn ystod y pandemig, gan roi £3.7 biliwn ychwanegol i gynghorau ddarparu gwasanaethau allweddol fel canolfannau hamdden a phyllau nofio, ac rydym yn buddsoddi £260 miliwn i adeiladu neu uwchraddio miloedd o gyfleusterau ar lawr gwlad ledled y DU."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.