Gweithwyr tren i streicio eto fis Chwefror
Bydd gweithwr tren sy'n aelodau o undeb yr RMT yn ymuno â miloedd o weithwyr eraill a fydd ar streic fis nesaf.
Cyhoeddodd yr undeb y bydd eu haelodau sy'n gweithio i 14 cwmni tren yn cadw draw o'u gwaith ar 1 a 3 Chwefror.
Ymhlith y cwmniau hynny, mae Great Western Railway, sy'n gwasanaethu yn y de ac Avanti West Coast sy'n gwasaethu yn y gogledd.
Roedd undeb y gyrwyr tren Aslef eisoes wedi cyhoeddi y byddai miloedd o'u haelodau yn streicio ar y diwrnodau hynny, a bydd 100,000 o weision sifil a degau ar filoedd o athrawon hefyd ar streic ar 1 Chwefror.
Yn ogystal, mae protestiadau wedi eu trefnu ar gyfer 1 Chwefror yn erbyn cyfreithiau newydd dadleuol Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fynd i'r afael â streiciau.