Ken Owens yn gapten Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

17/01/2023
Ken Owens

Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad.

Ken Owens fydd capten Cymru ar gyfer y bencampwriaeth.

Mae ail reng Caerdydd Teddy Williams, asgellwr Caerdydd Mason Grady, ail reng y Gweilch Rhys Davies a maswr y Gweilch Keiron Williams wedi cael eu cynnwys yn y carfan am y tro cyntaf.

Bydd Rio Dyer, Tommy Reffell, Joe Hawkins a Dafydd Jenkins yn chwarae yn y bencampwriaeth am y tro cyntaf, yn dilyn eu capiau cyntaf dros Gymru yng ngemau cyfres yr Hydref.

Mae Louis Rees-Zammit a Dillon Lewis wedi eu cynnwys yn y garfan er fod amheuon am faint o funudau fyddan nhw'n chwarae oherwydd anafiadau.

Mae nifer o brif chwaraewyr Cymru wedi'u hanafu ar gyfer y gystadleuaeth, gan gynnwys Will Rowlands, Gareth Anscombe a Thomas Young.

Hen bennau profiadol

Bydd hen bennau oedd yn ganolog i garfannau Gatland yn ei gyfnod diwethaf fel rheolwr Cymru wedi cael eu dewis eto.

Ken Owens fydd y dyn allweddol ymysg y blaenwyr, fel y mae ei benodiad yn gapten yn ei ddangos.

Bydd Alun Wyn Jones yn chwarae yn ei 16eg pencampwriaeth eleni, wedi i Gatland ei ddewis yn y garfan unwaith yn eto.

Mae Taulupe Faletau hefyd yn y garfan, a bydd yn ennill ei ganfed cap os yw'n chwarae pob un gêm.

Wrth drafod y penderfyniad i benodi Ken Owens fel capten, dywedodd Gatland ei fod yn Gymro profiadol ac angerddol.

"Mae chwarae dros Gymru yn golygu gymaint iddo," meddai. "Mae e hefyd yn boblogaidd iawn gyda'r chwaraewyr.

"Fe wnaeth e ddod yn ôl o anaf yn anhygoel yn ystod cyfres yr Hydref. Os i chi'n dewis carfan ar y funud, fe yw rhif un yn y safle hynny. Ond fe fydd ganddo gystadleuaeth gan Dewi Lake a Bradley Roberts hefyd, sydd mynd i fod yn wych."

Dyma'r garfan yn llawn:

Blaenwyr: Rhys Carre (Caerdydd, 17 cap), Wyn Jones (Scarlets – 45 cap) Gareth Thomas (Gweilch – 17 cap), Dewi Lake (Gweilch – 8 caps), Ken Owens (Capten) (Scarlets – 86 cap), Bradley Roberts (Dreigiau – 3 cap) Leon Brown (Dreigiau – 22 caps), Tomas Francis (Gweilch – 67 cap), Dillon Lewis (Caerdydd – 45 cap), Adam Beard (Gweilch – 41 cap), Rhys Davies (Gweilch – heb ei gapio), Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs – 1 cap, Alun Wyn Jones (Gweilch – 155 cap), Teddy Williams (Caerdydd – heb ei gapio), Taulupe Faletau (Caerdydd – 95 cap), Jac Morgan (Gweilch – 6 cap), Tommy Reffell (Leicester Tigers – 4 cap), Justin Tipuric (Gweilch – 89 caps), Christ Tshiunza (Exeter Chiefs – 3 cap), Aaron Wainwright (Dreigiau – 36 caps)

Cefnwyr: Kieran Hardy (Scarlets – 16 cap), Rhys Webb (Gweilch – 36 cap), Tomos Williams (Caerdydd – 40 cap), Dan Biggar (Toulon – 103 cap), Rhys Patchell (Scarlets – 21 cap), Owen Williams (Gweilch – 3 caps), Mason Grady (Cardiff Rugby – heb ei gapio), Joe Hawkins (Gweilch – 1 cap), George North (Gweilch – 109 cap), Nick Tompkins (Saracens – 25 cap), Keiran Williams (Ospreys – heb ei gapio), Josh Adams (Caerdydd – 44 cap), Alex Cuthbert (Gweilch – 55 cap), Rio Dyer (Dreigiau – 3 cap), Leigh Halfpenny (Scarlets – 97 cap), Louis Rees-Zammit (Gloucester Rugby – 22 cap), Liam Williams (Caerdydd- 81 cap)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.