Teulu'n talu teyrnged i fenyw 'annwyl' fu farw mewn gwrthdrawiad
Mae teulu menyw o Gasnewydd fu farw mewn gwrthdrawiad wedi talu teyrnged iddi.
Bu farw Paula Richards, 59, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng Crymlyn ac Aberbîg ar yr A467 tua 13:20 ddydd Gwener 13 Ionawr.
Dywedodd ei theulu ei bod yn 'aelod annwyl'.
“Paula oedd merch Joan a Colin Richards a chwaer hŷn ei dau frawd David a Philip.
"Roedd yn aelod annwyl o’r teulu, ac roedd bob amser yn chwilio am ffyrdd i helpu’r bobl o’i chwmpas.
"Bydd yn cymryd amser i ni ddechrau dod i delerau â’r ddamwain ofnadwy hon ac rydym yn gwybod y bydd pawb o’n hamgylch ni’n rhannu ein tristwch."
Mae ei theulu agosaf yn derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw fodurwyr â lluniau camera car a oedd yn defnyddio’r A467 rhwng 1pm a 2pm i gysylltu â nhw.
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda Heddlu Gwent gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2300012861. Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.