Newyddion S4C

Cyfradd cyflogaeth yng Nghymru yn gostwng 1.8%

17/01/2023
pobl yn gweithio

Mae'r gyfradd gyflogaeth yng Nghymru wedi gostwng 1.8% yn ôl ffigyrau diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

O gymharu gyda'r cyfnod hwn y llynedd, mae'r gyfradd gyflogaeth yng Nghymru wedi gostwng i 72.2%.

Mae'r ffigyrau yn dangos y gyfradd o bobl sydd wedi eu cyflogi sydd rhwng 16 a 64 oed.

Ffigyrau Cymru ydy'r gostyngiad mwyaf yn y DU, gyda'r cynnydd mwyaf yng Ngogledd Iwerddon (3.3%).

Cyflogau'n codi

Mae cyflogau wedi codi ar y raddfa uchaf mewn dros 20 o flynyddoedd, ond er hyn mewn termau real dydyn nhw ddim cymaint â chwyddiant. 

Cododd cyflog ar radd flynyddol o 6.4% rhwng Medi a Thachwedd 2022, yn ôl ffigyrau'r ONS.

Dyma'r tyfiant mwyaf ers 2001, ac eithrio'r pandemig.

Ond mae costau byw wedi codi ar y raddfa uchaf ers bron 40 o flynyddoedd, ac yn ôl Cyfarwyddwr Ystadegau Economegol yr ONS, Darren Morgan, nid yw pobl yn cael gwerth am arian.

"Mae gwerth go iawn tâl pobl yn parhau i ostwng, gyda phrisiau yn codi'n gyflymach nag enillion.

"Dyma'r gostyngiad cyflymaf mewn enillion ers i gofnodion ddechrau."

Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.