Joe Ledley yn dysgu Cymraeg yng nghyfres newydd Iaith Ar Daith
Mae cyn bêl-droediwr Cymru, Joe Ledley, wedi cyhoeddi ei fod yn cymryd rhan yng nghyfres nesaf Iaith ar Daith.
Mae'r gyfres yn dilyn taith amryw o enwogion wrth iddyn nhw ddysgu Cymraeg gyda chefnogaeth enwogion sydd eisoes yn rhugl yn yr iaith.
Dywedodd Ledley, oedd yn y garfan a gyrhaeddodd rowndiau'r chwarteri ym Mhencampwriaeth yr Euros yn 2016 ei fod wedi "joio" ei ddiwrnod cyntaf.
"Edrych ymlaen at weddill y daith", ychwanegodd.
Bydd Ledley yn cael ei dywys ar y gyfres gan y cyflwynydd a'r sylwebydd pêl-droed Dylan Ebenezer.
Mae'r gantores a chyflwynydd Aleighcia Scott eisoes wedi cyhoeddi ei bod yn cymryd rhan yn y gyfres nesaf.
Yn y gorffennol, mae cyn-hyfforddwr pêl-droed Cymru Chris Coleman, yr actores Ruth Jones, y cyflwynydd Carol Vorderman a'r cyn-Olympiwr Colin Jackson wedi cymryd rhan.
Mae disgwyl i'r lein-yp yn ei chyfanrwydd gael ei chyhoeddi cyn i'r gyfres ddychwelyd i S4C yn y misoedd nesaf.