Newyddion S4C

Grŵp o arbenigwyr i gynghori Llywodraeth Cymru ar wahardd 'therapi trosi'

17/01/2023
Pride Cymru

Bydd grŵp o arbenigwyr yn cynghori Llywodraeth Cymru ar gamau i wahardd "therapi trosi" yng Nghymru ar gyfer pob person LHDTC+.

Daeth cyhoeddiad y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn, yn dilyn ymrwymiad gan y llywodraeth i ffurfio gweithgor.

Bydd y gweithgor yn cynnwys cynrychiolwyr ar ran cymunedau ffydd, y sector iechyd a gofal cymdeithasol, plant a phobl ifanc a phobl LHDTC+.

Mae'r aelodau yn cynnwys Jayne Ozanne a wynebodd bron i 20 mlynedd o arferion trosi a bu'n rhaid iddi fynd i'r ysbyty ddwywaith o ganlyniad i hynny. 

Yn flaenoriaeth iddi bydd sicrhau bod holl bobl LHDTC+ yn cael eu cynnwys yn llawn, yn enwedig pobl LHDTC+ sydd â ffydd.

Dywedodd Jayne, sy'n Sylfaenydd a Chadeirydd Cynghrair Gwahardd Therapi Trosi y DU: "Rydyn ni'n gwybod bod hyn yn digwydd mewn llawer o eglwysi a grwpiau crefyddol ar draws y byd. Dyw Cymru ddim yn eithriad.

"Mae'n ffiaidd, yn niweidiol ac yn gamdriniaeth. Yn anffodus, mae'n drawma sy'n aros gyda chi am oes gan ei fod yn mynd at wraidd pwy ydych chi a sut rydych chi'n caru.

"Mae cynnwys pobl traws ac anneuaidd mewn gwaharddiad yn hanfodol gan fod lefel y cam-drin corfforol a cham-drin geiriol yn erbyn y gymuned draws ac anneuaidd mor ddifrifol. Mae'n arbennig o bwysig ein bod yn gweithio i ddiogelu pobl ifanc ar draws y gymuned LHDTC+ oherwydd bod y canlyniadau meddyliol mor erchyll.

"Os ydych chi'n dioddef trawma yn gymharol ifanc oherwydd rhywbeth mor sylfaenol â'ch hunaniaeth graidd, yna gall hynny fynd ymlaen i effeithio ar eich rhagolygon o ran addysg ac o ran gyrfa, eich ymdeimlad o hyder a'ch gallu i garu a chael eich caru, sy'n golygu bod perthnasoedd cadarnhaol gydol oes yn aml yn cael eu heffeithio'n ddifrifol."

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn: "Dangosodd data'r Cyfrifiad yn ddiweddar fod pobl LHDTC+ yn preswylio ac yn cyfrannu ym mhob rhan o Gymru, sy'n pwysleisio ymhellach ein hymrwymiad i sicrhau bod pob cornel o'n gwlad yn lle diogel i fyw yn agored ac yn driw i’ch hunan.

"Mae arferion trosi yn ffiaidd, ac rydym wedi ymrwymo i'w gwahardd i helpu i ddiogelu pawb yn ein cymunedau LHDTC+."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.