Newyddion S4C

Y gwrthwynebiad yn parhau i agor ysgol Saesneg ym Mhontardawe

Newyddion S4C 16/01/2023

Y gwrthwynebiad yn parhau i agor ysgol Saesneg ym Mhontardawe

Mae'r gwrthwynebiad yn parhau i gynlluniau i agor ysgol enfawr Saesneg ym Mhontardawe.

Cafodd y cynlluniau ar gyfer yr ysgol gynradd newydd ei chymeradwyo y llynedd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot. Roedd y cynlluniau hefyd yn cynnwys pwll nofio a chanolfan cymorth dysgu arbenigol.

Ond, fe wnaeth yr uchel lys ddyfarnu bod y cynlluniau yn anghyfreithlon oherwydd methiant i asesu'r effaith ar ysgolion Cymraeg lleol.

Mae’r cyngor wedi cyflwyno ymgynghoriad newydd sydd unwaith eto yn cynnwys yr opsiwn i gau ysgolion Cwm Tawe er mwyn agor ysgol enfawr.

Yn ol rhai rhieni, fe fydd cau’r ysgolion lleol yn cael effaith niweidiol ar addysg eu plant.

Mewn datganiad fe ddwedodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot eu bod yn annog holl randdeiliaid yr ysgol a’r gymuned i ymateb i’r ymgynghoriad a rhoi eu barn.

Yn ôl Rachel Jones, sydd yn fam i dri o blant yn Ysgol Alltwen, nid yw’r cynlluniau yn “gwneud synnwyr” iddi hi.

“Fydd e’n ofnadwy i ni. Mae’r bechgyn yn cerdded i’r ysgol bob dydd. Fe fydd yr ysgol newydd jest yn rhy bell i ni. Mae’r lleoliad hefyd yn broblem. Mae’n digon brysur yn barod yn y bore ym Mhontardawe.

“Bydd yr ysgol drws nesaf i’r ysgol gyfun hefyd sy’n achosi pryder. Ni’n clywed enghreifftiau o blant ifanc yn mynd nol adre yn defnyddio iaith ofnadwy ar ôl beth mae nhw wedi clywed fyna.

“Mae siwd gymaint o botensial yn y tair ysgol hefyd. Yn Alltwen er enghraifft mae digon o le i wneud yr ysgol yn fwy o faint.

“Does dim esgus pam na gallai’r arian gael eu gwario ar wella y tair ysgol.

“Ar ddiwedd y dydd mae’r plant yn babanod. Mae nhw ddim eisiau bod mewn ysgol gyda 700 o blant eraill.”

Image
Pontardawe
Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot eu bod yn annog holl randdeiliaid yr ysgol a’r gymuned i ymateb i’r ymgynghoriad a rhoi eu barn.

Yn ôl Emily Marie, mae ei mab wedi bod i dair ysgol wahanol, ac ysgol Alltwen yw’r ysgol mae’n teimlo’n fwyaf catrefol ynddi.

“Mae Ysgol Alltwen wedi helpu fe siwd gymaint. Mae wedi helpu gyda’i hyder. Mae’n caru fe.

“Fi’n credu os fydd yr ysgol newydd yn cael ei adeiladu fydd e’n cael ei golli yn y system.

Y llynedd fe lwyddodd mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg i sicrhau adolygiad barnwrol yn erbyn y cynllun – gyda’r llys yn penderfynu bod y cynlluniau yn anghyfreithlon am nad oedd y cyngor wedi ystyried yr effaith ar y iaith Gymraeg.

Fe ddywedodd Elin Maher, cyfarwyddwr cenedlaethol RHAG, “Roedd yn anochel bod yr ymgynghoriad yn dod yn ôl, ry ni’n siomedig bod e wedi dod nôl mwy na lai yn yr un modd â beth oedd e yn y lle cyntaf.

“Ein dadl ni oedd gyda’r ymgynghoriad cyntaf, nad oedd astudiaeth effaith ar y Gymraeg wedi ei gynnal yn yr ymgynghoriad.

“Mae yna astudiaeth effaith y tro hwn, ond mae’r astudiaeth effaith yn nodi’n ddigon clir yr effeithiau negyddol sydd yn mynd i fod i’r Gymraeg petai’r cynllun hyn yn mynd trwyddo.

“Mae’n drueni fod yr un cynllun nol, ac i ni’n gobeithio fydd y cyngor yn sicrhau bod y cynllun yn dod i stop. Mae angen ail-feddwl. Mae angen ystyried yn ddwys yr effaith, a chymryd i ystyried yr hyn mae astudiaeth ei hunain yn dweud wrthyn nhw.”

'Amhoblogaidd'

Ym mis Hydref y llynedd, fe gomisiynodd Llywodraeth Cymru adroddiad yn edrych ar effaith agor yr ysgol enfawr ar y iaith Gymraeg yn lleol .

Ynddo mae cyn brif weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meirion Prys Jones, yn dweud na fyddai unrhyw gamau yn ddigonol i liniaru'r difrod i sefyllfa’r Gymraeg – allai gael eu achosi gan y datblygiad newydd.

Fe ddywedodd Sioned Williams, Aelod Senedd Gorllewin De Cymru, “dwi ddim yn meddwl dylai Llywodraeth Cymru fod wedi cymeradwyo’r cynllun yma yn y lle cyntaf. Felly dylai’r ymgynghoriad heb ddigwydd.

“Mae’r cynllun yn gwbl amhoblogaidd yn lleol gan rieni’r ysgolion a’r cymunedau y bydd yn effeithio, felly fi’n gobeithio y tro yma, unwaith ac am byth, byddwn ni’n gweld y cyngor yn gwrando ar lais y gymuned yn lleol ac felly fe fydd y cynlluniau amgen yn dod rhagddyn nhw ar gyfer gwella darpariaeth addysgol cyfrwng Saesneg yn y cwm a bydd llywodraeth Cymru yn ariannu’r cynlluniau hynny.”

Ar gaeau Parc Ynysderw mae’r cyngor yn cynnig i adeiladu’r ysgol enfawr ar gost o ddros £22m.

Mae’r cynlluniau yn sôn y bydd yr ysgol newydd yn ddigon mawr i dderbyn 770 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed.

'Colled'

Ond mae pryderon hefyd am yr effaith gall adeiladu’r ysgol ei chael ar gyfleusterau chwaraeon sydd ar gael yn yr ardal.

Yn ôl Dai Brain, cynghorydd ar gyngor tref Pontardawe, fe fydd adeiladu’r ysgol enfawr ar safle’r caeau yn cael effaith niweidiol ar chwaraeon yn yr ardal.

“Mae’r cymuned yn sefyll i golli 30% o’n caeau chwarae, sef maint 2 cae chwarae pêl-droed. I wneud y colled yn waeth, y mannau o’r cae sy’n addas iawn i chwarae arno fydd yn cael eu colli.

Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus ar agor tan 24 Ionawr.

Mewn datganiad, fe ddywedodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, “Fe wnaeth gweinyddiaeth glymblaid y cyngor ymrwymiad i adolygu’r cynnig gwreiddiol ac mae’r awdurdod yn annog holl randdeiliaid yr ysgol a’r gymuned i ymateb i’r ymgynghoriad a rhoi eu barn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.