Nyrsys yng Nghymru i streicio eto ym mis Chwefror
Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru wedi cyhoeddi rhagor o ddyddiadau y bydd nyrsys ar streic.
Wrth i'r anghydfod dros gyflogau ac amodau barhau, cyhoeddodd y Coleg y bydd nyrsys yn streicio ar 6 a 7 Chwefror, gyda disgwyl i 12 ymddiriedolaeth yng Nghymru gymryd rhan.
Daw hyn wedi i filoedd o nyrsys yng Nghymru a Lloegr streicio ym mis Rhagfyr, gan arwain at apwyntiadau a thriniaethau yn cael eu canslo.
Yn ystod trafodaethau gyda’r undebau yr wythnos ddiwethaf, fe gynigodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan daliad untro i geisio mynd i'r afael â’r anghydfod tâl. Ond mae gweithwyr iechyd wedi dweud na fydden nhw’n ystyried y cynnig hwnnw, ac yn galw am fwy o newid.
'Amharch'
Dywedodd Cyfarwyddwr y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru, Helen Whyley, ei bod "wedi gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn newid ei dull a dod yn ôl er mwyn trafod gyda'r RCN o ddifrif ar gyflogau'r GIG a chynnig codiad cyflog sylweddol. Nid yw hyn wedi digwydd hyd yma.
"Mae'r cynnig o daliad untro anghyfunol, sydd wedi ei ariannu gan arian wedi ei 'ddarganfod i lawr cefn soffa' yn dangos amharch Llywodraeth Cymru tuag at yr argyfwng yn y gweithlu nyrsio a diffyg ymrwymiad er mwyn ceisio mynd i'r afael â hyn."
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Gweinidog Iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George AS, fod yn rhaid i "Lafur roi'r gorau i gymryd arnynt nad eu cyfrifoldeb nhw ydi cyflogau'r GIG ac mae'n rhaid iddynt gymryd rhan mewn trafodaethau sylweddol gyda nyrsys.
"Heb ddatrysiad, ni fydd y GIG yng Nghymru sy'n cael ei redeg gan Lafur byth yn gweithio i gleifion na staff."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "siomedig fod yr RCN wedi penderfynu mynd yn eu blaen a chyhoeddi rhagor o ddyddiadau ar gyfer gweithredu yn ddiwydiannol, ond yn falch eu bod wedi cynnig y cyfle i sicrhau fod trafodaethau yn parhau.
"Rydym yn dal i aros i glywed yn ffurfiol gan yr undebau iechyd eraill yng Nghymru o ran eu hymateb i'r pecyn a gafodd ei gynnig yr wythnos ddiwethaf."