Heddlu'r Met yn ymddiheuro wedi i blismon bledio'n euog i gyfres o droseddau rhyw
Mae Heddlu'r Met wedi ymddiheuro i ddioddefwyr, ar ôl i blismon gyfaddef iddo ymosod ar ddwsin o fenywod dros gyfnod o 18 mlynedd.
Daeth i'r amlwg fod y Cwnstabl David Carrick, 48, wedi dod i sylw'r heddlu ar naw achlysur.
Roedd y rhain yn cynnwys honiadau o dreisio, trais domestig ac aflonyddu rhwng 2000 a 2021.
Fe ymunodd Carrick â'r Met yn 2001 cyn dod yn swyddog arfog gyda Rheolaeth Amddiffyniad Seneddol a Diplomataidd yn 2009 ac ni wynebodd unrhyw sancsiynau troseddol neu ganfyddiadau o gamymddygiad.
Cafodd ei atal o'i waith ar ôl cael ei arestio yn dilyn ail gwyn am dreisio ym mis Hydref 2021 - ond nid yw'r darlun llawn yn gallu cael ei gyfleu am resymau cyfreithiol.
Yn Llys y Goron Southwark ddydd Llun, fe blediodd Carrick yn euog i bedwar cyhuddiad o dreisio, carcharu ar gam ac ymosodiad anweddus mewn cysylltiad â menyw 30 oed yn 2003.
Yn Llys yr Old Bailey ym mis Rhagfyr, fe gyfaddefodd Carrick a wasanaethodd yn y Fyddin cyn iddo ymuno â'r Met i 43 cyhuddiad yn erbyn 11 menyw arall, gan gynnwys 20 cyhuddiad o dreisio, rhwng mis Mawrth 2004 a mis Medi 2020.
Fe wadodd gyhuddiad pellach o dreisio ym mis Medi 2020 mewn cysylltiad â menyw arall , a wnaeth y cyhuddiad gwreiddiol a arweiniodd at yr ymchwiliad.