Newyddion S4C

'Mae pobl anabl yn cael rhyw hefyd'

17/01/2023
Mared Jarman a Hollie Smith
Dyw gweithwyr yn y byd iechyd ddim yn rhoi gwybodaeth digon da i bobl ag anableddau wrth drafod atal cenhedlu medd un ddynes ddall.
 

Wrth drafod rhyw ar y podlediad ‘Probcast’ mae’r actores Mared Jarman yn dweud bod staff ddim yn gallu rhoi'r opsiynau gorau i unigolyn anabl am nad ydyn nhw yn gwybod digon am yr hyn sydd orau i’r person.

“Ti’n mynd i’r doctor neu nyrs a gofyn am advice a maen nhw ddim yn gwybod achos maen nhw ddim yn informed efo anableddau a’r peth gorau i offro pobl sydd yn byw gydag anableddau.”

Mae’n dweud hefyd bod angen gwella agweddau.

“Pan ti yn mynd i siarad gyda’r doctor…unwaith maen nhw yn gwybod bod gen ti anabledd maen nhw hefyd yn meddwl bo ti yn stiwpid ac yn siarad gyda ti mewn ffordd gwahanol.

Neu maen nhw yn meddwl, ‘Oh you won’t have to worry about that’. Mae e jest yn teimlo fel rhywbeth ti ddim yn gallu cymryd lot o agency drosto.”

Mae’n sôn am ei phrofiad o gymryd y bilsen yn y gorffennol a’r drafferth gyda hynny fel person dall.

“Mae’r tablets yn absolutely miniscule ac maen nhw efo Monday,Tuesday, Wednesday arnyn nhw ac arwyddion bach sydd yn dweud wrtho ti pa ffordd i fynd. Mae hwnna mor visual based. Mae ddim yn rhoi lot o ryddid i ti ac annibyniaeth i ti dy hun i allu neud rhywbeth fel hwnna.”

Erbyn hyn mae Mared yn cymryd y coil am fod dulliau atal cenhedlu fel y bilsen sydd gyda hormonau ynddo yn effeithio ar ei chorff a’i llygaid.

So nawr mae gen i fel ID copper coil ac mae hwnna mor boenus. Ac ti yn gorfod neud sacrifices, ti goro meddwl amdano.”

Podlediad yn trafod ystod eang o bynciau gyda phedair merch sydd ag anableddau gwahanol yw ‘Probcast’ gan Hansh. Bob wythnos mae Hollie Smith, Beth Frazer, Mared Jarman ac Amber Davies yn trafod pwnc gydag un yn cadeirio tra bod y tair arall yn dadlau eu hachos dros gael y broblem ‘waethaf’.

Yn ystod y bennod ddiweddaraf o’r podlediad, rhyw yw’r pwnc.

Mae Hollie Smith yn dweud bod cael rhyw pan ti yn fyddar yn gallu bod yn “rhwystredig” ar adegau.

“Weithiau mae pethau doniol yn gallu digwydd achos ti ddim yn gallu clywed a mae bach yn heriol pan ti yn trio bod yn eithaf… ymlacio, siarad ti’n gwybod a wedyn ti ddim yn clywed be mae’r person arall yn deud. So ti methu jest deud, ‘Can you whisper that again a bit louder?’”

Yn aml mae’n dweud ei bod wedi ffugio gallu clywed yr hyn mae'r person arall wedi dweud wrth gael rhyw.

Thema gyson yn ystod y drafodaeth yw’r ffaith bod y pedair yn teimlo nad yw cymdeithas yn disgwyl pobl anabl i fod yn cael rhyw a mwynhau cael rhyw.

Trafod profiad diweddar wrth fynd i aros mewn gwesty wna Beth Frazer. Roedd hi wedi gofyn am ystafell hygyrch gan ei bod yn defnyddio cadair olwyn ond dim ond dau wely sengl oedd yno. Pan ofynnodd am wely dwbl ar ei chyfer hi a’i dyweddi cafodd wybod nad oedd ganddyn nhw ystafell fel hyn i bobl ag anableddau yn y gwesty cyfan.

Mae’n dweud iddi orfod symud i ystafell oedd ddim yn hygyrch er mwyn medru cael gwely dwbl.

“O’n i fatha disabled people have sex too. Pam da ni ddim yn cael cydlo yn y nos? Anything, any kind of human contact…Pam fysa nhw ddim yn meddwl, ‘Oh we should build some with double beds?’ ”

Mae Probcast pennod 4 ar gael i wrando arno yma: https://youtu.be/zdEd0yV-7Yk

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.