Beth yw'r cysylltiad rhwng Miley Cyrus a stryd yng Nghaerdydd?

Mae'r seren bop fyd-enwog Miley Cyrus wedi hyrwyddo ei sengl newydd hirddisgwyliedig ar gyfryngau cymdeithasol gyda llun o hysbysfyrddau ar draws y byd, gan gynnwys un yng Nghaerdydd.
Cafodd trac newydd y gantores, o'r enw Flowers, ei ryddhau ddydd Gwener (Ionawr 13).
Cyn i'w halbwm newydd Endless Summer Vacation gael ei ryddhau ar 10 Mawrth, fe rannodd Miley nifer o hysbysfyrddau yn hysbysebu ei cherddoriaeth, gan gynnwys un yn Heol y Frenhines ynghanol y brifddinas.
Roedd rhai cefnogwyr â llygaid barcud, ac fe wnaethon nhw adnabod y stryd yn sydyn, gydag un yn postio: "Rwyt ti bellach yn berson Cymreig anrhydeddus, gobeithio dy fod yn gwybod hyn."
Dywedodd un arall: "Bydden i wrth fy modd yn gwybod sut wnaeth y llun o Gaerdydd gael ei ddewis".
"Rydw i wedi gwirioni gyda Chaerdydd yn cael y sylw yma ochr yn ochr â Thoronto ac Efrog Newydd", meddai defnyddiwr arall.
Mae'r gân fywiog wedi cael ei disgrifio gan gefnogwyr fel "trac o amharch" tuag at ei chyn-ŵr Liam Hemsworth ac fe gafodd ei rhyddhau ar ei ben-blwydd.
Mae’r gân hefyd yn samplo trac Bruno Mars yn 2011, When I Was Your Man.
Daeth Miley i'r amlwg yn ei harddegau ar ôl serennu ar Hannah Montana ar Disney Channel rhwng 2006 a 2011.
Mae fideo cerddoriaeth swyddogol Flowers eisoes wedi'i ffrydio dros 30 miliwn o weithiau ar YouTube, ac mae'r gân wedi cael ei chwarae dros 18.8 miliwn o weithiau ar Spotify.