Teyrngedau i'r 'bardd ffraeth a hoffus' Les Barker
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r bardd dwyieithog a'r cyfansoddwr Les Barker.
Bu farw Mr Barker dros y penwythnos yn 75 oed, ac mae teyrngedau lu wedi eu rhoi iddo ar y cyfryngau cymdeithasol.
Yn wreiddiol o Fanceinion, symudodd i Wrecsam a dysgodd Gymraeg cyn mynd ymlaen i farddoni a chystadlu mewn eisteddfodau.
Enillodd gadeiriau mewn sawl eisteddfod leol, gan gynnwys Llandyfaelog, Mynydd Y Garreg a Chrymych.
Roedd yn cyfrannu'n gyson i'r sîn werin yng Nghymru yn ogystal â gweithgareddau yn ymwneud â barddoniaeth.
Dywedodd y Prifardd Hywel Griffiths ei fod yn "drist iawn o glywed am golli Les Barker. Bardd annwyl a doniol iawn iawn. Cofio crio chwerthin mewn stomps yng Ngŵyl Tegeingl a Steddfod."
Ychwanegodd Cymdeithas Gerdd Dafod Barddas ei fod yn "gymeriad annwyl, unigryw, a doniol iawn. Yn wreiddiol o Fanceinion, dysgodd y Gymraeg a throchi ei hun yn niwylliant Cymreig Yr Wyddgrug, Sir y Fflint a Chymru gyfan. Bydd colled ar ei ôl. Diolch Les."
Yn ôl y prifardd Tudur Dylan Jones, roedd Les Barker yn "fardd ffraeth a hoffus" a dywedodd y bardd Gruffudd Antur mai ef oedd "y bardd addfwyna, rhyfedda, ac uchafbwynt pob Stomp yn ddi-ffael."
Roedd Siôn Aled Owen yn athro cynghanedd arno, ac ysgrifenodd cerdd fel teyrnged iddo.
Les - fy nisgybl cynganeddol
Ni fu ‘rioed mwy brwdfrydedd - â’i dasgau,
a’r dysgu’n orfoledd;
anghenus fydd ‘nghynghanedd
a hithau f’iaith wrth ei fedd.
Llun: Costa del Folk