Newyddion S4C

Amrywiolyn India: Dim angen 'becso gormod' am sefyllfa Cymru

14/05/2021

Amrywiolyn India: Dim angen 'becso gormod' am sefyllfa Cymru

Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi dweud nad oes angen "becso gormod" am sefyllfa Cymru wrth i achosion o amrywiolyn India o Covid-19 gynyddu mewn rhannau o ogledd Lloegr.

"Y problem yw beth sy'n digwydd dros y ffin, ble mae'r nifer o bobl sydd yn dioddef o'r variant newydd yn cynyddu yn 'itha cyflym", dywedodd Mr Drakeford.

"So ma' lot o bethe i ni ddysgu i gael mwy o wybodaeth i fod yn fwy sicr am sut mae'r variant newydd yn lledaenu a sut mae'r rhaglen brechiad yn gallu helpu ni i ddelio gydag unrhyw broblemau newydd sy'n mynd i godi", ychwanegodd.

Dywedodd hefyd fod cyngor gwyddonol y llywodraeth yn parhau i awgrymu y bydd trydedd don o Covid-19, ond nid i'r un raddfa a'r ddwy don gyntaf o'r feirws.

Ddydd Llun, fe fydd Cymru gyfan yn symud o Lefel Rhybudd 3 i Lefel Rhybudd 2, gyda'r sector lletygarwch yn cael ail-agor dan do am y tro cyntaf ers bron i bum mis.

Beth fydd y camau nesaf?

Ymhen tair wythnos, mae'n bosib y bydd modd llacio'r cyfyngiadau ymhellach o Lefel Rhybudd 2 i Lefel Rhybudd 1, gan alluogi mwy o bobl  o wahanol aelwydydd i gwrdd yn nhai ei gilydd.

Byddai'n bosib hefyd y gall fwy o ddigwyddiadau torfol gael eu cynnal, gan ddibynnu ar ganlyniadau'r treialon a ddechreuodd yr wythnos hon.

Ond, fe bwysleisiodd Mr Drakeford fod hynny yn dibynnu ar sefyllfa Covid-19 yng Nghymru erbyn dechrau mis Mehefin.

Dros y penwythnos, mae disgwyl i Gymru gyrraedd carreg filltir arall yn yr ymdrech frechu, wrth i ddwy filiwn o bobl dderbyn eu brechiad cyntaf rhag y feirws.

Mae tri chlaf bellach mewn unedau gofal dwys yng Nghymru gyda Covid-19 ac fe ddywedodd y Prif Weinidog fod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn dechrau dychwelyd i ddarpariaeth arferol.

Fe fydd hawl teithio i restr benodol o wledydd tramor o ddydd Llun, ac fe fydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r un system oleuadau traffig a rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.

Bydd unrhyw un sy'n dychwelyd o wlad werdd yn gorfod cael prawf am Covid-19 wedi iddyn nhw gyrraedd Cymru ond, yn wahanol i Loegr, ni fydd modd i bobl sy'n dychwelyd o wlad oren gael prawf er mwyn dod a'u cyfnod hunanynysu i ben ynghynt.

Mae'r gynhadledd ar gael i'w gwylio yn llawn ar dudalen Facebook Newyddion S4C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.