Newyddion S4C

Mark Williams yn colli yn rownd derfynol Pencampwriaeth y Meistri

16/01/2023
S4C

Mae Mark Williams wedi colli yn rownd derfynol snwcer Pencampwriaeth y Meistri. 

Judd Trump oedd ei wrthwynebydd. 

Collodd y Cymro 10-8 yn Alexandra Palace, wrth i Trump ennill y gystadleuaeth am yr eildro.

Ond roedd yn rhaid i Trump weithio'n galed am y fuddugoliaeth wrth i Williams chwarae'n gampus yn y fframiau cychwynnol.

Er hynny wrth i'r sesiwn brynhawn ddod i ben Judd oedd ar y blaen o 5-3. 

Fe ddaeth Williams yn ôl gan ennill o 7-6 ac 8-7, ond doedd o ddim y gallu sicrhau'r fuddugoliaeth.

Dyma'r tro cyntaf i Williams gyrraedd rownd derfynol prif gystadleuaeth snwcer ers 2018.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.