Dynes o Brydain wedi marw mewn avalanche yn Ffrainc
15/01/2023
Mae dynes o Brydain wedi marw mewn avalanche yn yr Alpau yn Ffrainc.
Cafwyd hyd iddi ar rewlif Argentiere sydd yn rhan o Mont Blanc gan achubwyr mynydd, ond nid oedd modd achub ei bywyd.
Dywedodd y Cyrnol Bertrand Host, o’r gwasanaeth achub mynydd yn Chamonix, fod ei dîm wedi’u galw i’r rhewlif tua 17:00 amser lleol ddydd Sadwrn.
Mae crwner Chamonix wedi agor ymchwiliad i farwolaeth y ddynes 45 oed.
Dywedodd y Cyrnol Host nad oedd marwolaethau ar fynydd Mont Blanc yn brin, gyda thua 80 o bobl yn colli eu bywydau bob blwyddyn.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: “Rydym yn darparu cymorth i deulu dynes o Brydain fu farw yn Ffrainc.”
Llun: Pixabay