Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn diswyddo Mark Hudson fel rheolwr
Mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi rhyddhau Mark Hudson o'i ddyletswyddau fel Rheolwr y Tîm Cyntaf.
Daw'r datblygiad wedi i'r Adar Gleision gael gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Wigan ddydd Sadwrn, gan eu gadael yn yr 21ain safle yn y Bencampwriaeth.
Mewn datganiad dywedodd y clwb: “Hoffai Bwrdd y Cyfarwyddwyr ddiolch i Mark am ei holl waith fel chwaraewr, hyfforddwr a rheolwr tra gyda'r Adar Gleision.
“Dymunwn bob lwc i Mark ar gyfer y dyfodol.”
Cardiff City Football Club has relieved Mark Hudson of his duties as First Team Manager.
— Cardiff City FC (@CardiffCityFC) January 14, 2023
The Board of Directors would like to place on record its thanks to Mark for all of his work as a player, coach and manager whilst with the Bluebirds.
Bydd Dean Whitehead yn cymryd cyfrifoldebau Rheolwr y Tîm Cyntaf dros dro.
Bydd Tom Ramasut yn parhau fel Rheolwr Cynorthwyol a bydd yn cael ei gefnogi gan yr Hyfforddwr Gôl, Graham Stack.
Ychwanegodd y datganiad: “Bydd y Clwb yn dechrau chwilio am reolwr parhaol newydd."