
'Dim lle i anobeithio' am ganlyniad y Cyfrifiad medd Dafydd Iwan
'Dim lle i anobeithio' am ganlyniad y Cyfrifiad medd Dafydd Iwan
Mae Dafydd Iwan wedi dweud nad oes lle i anobeithio yn dilyn canlyniadau diweddar y Cyfrifiad ar nifer y siaradwyr Cymraeg.
Fe ddangosodd canlyniadau'r Cyfrifiad fod gostyngiad wedi bod yn nifer y siaradwyr Cymraeg dros y ddegawd ddiwethaf - gyda 17.8% o boblogaeth Cymru bellach yn siarad yr iaith.
Yn 2011, roedd 19% o'r boblogaeth yn medru siarad Cymraeg yn ôl y Cyfrifiad bryd hynny.
Mae'r canlyniadau a gafodd eu cyhoeddi ddechrau Rhagfyr yn dangos bod 538,000 o siaradwyr Cymraeg o'r bobl sy'n byw yng Nghymru.
Roedd bron i filiwn o siaradwyr Cymraeg yn 1911 (977,000) ond fe syrthiodd hyn i isafbwynt o 504,000 yn 1981.

Mewn rali Cymdeithas yr Iaith yng Nghaerfyrddin ddydd Sadwrn, dywedodd Dafydd Iwan fod gobaith yn y frwydr i sicrhau dyfodol y Gymraeg.
Gorymdeithiodd torf o Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin at swyddfa'r Llywodraeth yn Rhes Picton yn y dref.
Dywedodd Dafydd Iwan wrth y rali: "Rhaid inni gymryd sylw o rybudd ystadegau'r cyfrifiad, ond ddylen ni byth anobeithio.
"Mae arwyddion clir fod yr ymgyrchu dros y 60 mlynedd diwethaf wedi creu chwyldro yng Nghymru, ac y mae'n bwysig ein bod yn dathlu hynny.
"Mae'r frwydr i ennill meddyliau a chalonnau'r Cymry, yn enwedig yr ifanc, yn parhau, ac yn y frwydr y mae'n gobaith. Ni ddaw byth i ben."
Ar ran Cymdeithas yr Iaith yn y sir, dywedodd Sioned Elin: "Os na lwyddwn i droi'r llanw yn awr, mae'n annhebygol y bydd unrhyw gymunedau naturiol Gymraeg ar ôl yn Sir Gâr erbyn y Cyfrifiad nesaf.
"Ond yn sicr dydy hi ddim yn amser i anobeithio, mae'n amser i weithredu. Byddwn ni'n mynd â saith o alwadau ar Lywodraeth Cymru fel sail i Raglen Argyfwng o gamau gweithredol i adfywio'n hiaith a'n cymunedau Cymraeg."