Newyddion S4C

Galw am gymorth i gefnogi bragdai a thafarndai drwy'r argyfwng costau byw

Newyddion S4C 15/01/2023

Galw am gymorth i gefnogi bragdai a thafarndai drwy'r argyfwng costau byw

Mae bragdy yn Sir Benfro wedi dweud wrth Newyddion S4C ei bod nhw’n “byw mewn gobaith” na fydd costau a threthi’n cynyddu wedi “blwyddyn anodd” y llynedd.

Mae 150 o dafarndai yng Nghymru a Lloegr yn cau bob wythnos, gyda gwerthiant cwrw wedi lleihau 20% mewn blwyddyn.

Yn ôl sylfaenydd Bluestone Brewery, mae'r farchnad yn lleihau wrth i bobl feddwl ddwywaith ynglŷn â sut i wario'u harian. 

“Mae costau rhedeg tafarn dyddiau hyn yn enfawr, felly mae tafarndai wedi mynd lawr i agor dau, tri diwrnod yr wythnos,” meddai Amy Evans.

“Wrth gwrs, mae hwnna’n effeithio ar beth ni’n gwerthu iddyn nhw. Mae cwrw fel luxury. Dyw pobl ddim yn gweld bod angen gwario gymaint ar bethau fel ‘ny, felly mae’r farchnad yn lleihau.” 

Image
newyddion
 Amy Evans yw sylfaenydd Bluestone Brewery.

Yn ôl Amy maent wedi arallgyfeirio ac addasu’n ddiweddar i farchnad galed, ond mae’r heriau’n parhau i’r bragdy. 

“Ry’n ni wedi agor sawl ffynhonnell wahanol o werthu er mwyn treial llenwi pob marchnad ond mae e’n creu lot mwy o waith i ni, costau marchnata ac ati, er mwyn treial cadw’r gwerthiant yn lefel yn hytrach na lleihau bob mis.” 

Fis Tachwedd, roedd gwerthiant i lawr 20% mewn rhai tafarndai o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. 

Fe gaeodd oleiaf un bragdy bach annibynnol bob wythnos llynedd hefyd, gydag eraill yn poeni beth ddaw iddyn nhw yn y flwyddyn newydd.

Mae yna alw o fewn y diwydiant am gymorth i gefnogi bragdai a thafarndai. 

Dywedodd Deiniol Carter, llefarydd ar ran cangen Caerdydd CAMRA (Campaign for Real Ale): “Ar draws Prydain, mae nifer yn lleihau, yn bendant, yn barod.

"Dylai’r Llywodraeth helpu a sefyll mewn...falle fydd y sefylla yn mynd o ddrwg i waeth.” 

Mae Trysorlys Llywodraeth y DU yn cydnabod bod y rhain yn ‘gyfnodau anodd’ ond yn dweud eu bod yn darparu cymorth gyda chostau ynni, tanwydd a threthi busnes ynghyd â rhewi’r dreth alcohol ymhellach tan fis Awst nesaf.

Ond er gwaetha’r heriau sy’n wynebu’r diwydiant, mae rhai yn barod i fentro.

Mae Clwb Pêl-droed Crymych yn awyddus i brynu’r Crymych Arms, a’i redeg fel tafarn gymunedol.

“Mae yn gyfnod anodd yn yr economi leol ond ar ddiwedd y dydd, nawr yw’r cyfle,” meddai Cris Tomos o bwyllgor Clwb Pêl-droed Crymych: 

“Ni wedi bod yn edrych ar wahanol dafarndai arall sydd wedi cael eu prynu gan y gymuned ac fel ry’ch chi’n cael pobl yn buddsoddi, fel cant a hanner, dau gant o bobl yn prynu tafarn, mae’r teuluoedd a’r unigolion yn medru ychwanegu, sicrhau bod yna wirfoddolwyr a hefyd bod staff yn cael cyfle a chefnogaeth.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.