Rishi Sunak yn addo anfon sgwadron o danciau i Wcráin
Mae’r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi cytuno i anfon sgwadron o danciau i’r Wcráin i gynorthwyo ymdrechion y wlad i ail-hawlio tiriogaeth a gollwyd i luoedd Rwsia dros y misoedd diwethaf.
Fe fydd pedwar tanc Challenger 2 yn cael eu hanfon i ddwyrain Ewrop ar unwaith, gydag wyth arall i ddilyn yn fuan wedyn.
Mae Mr Sunak wedi trafod y penderfyniad gyda'r Arlywydd Zelensky ddydd Sadwrn.
Always strong support of the UK is now impenetrable and ready for challenges. In a conversation with the Prime Minister, @RishiSunak, I thanked for the decisions that will not only strengthen us on the battlefield, but also send the right signal to other partners.
— Володимир Зеленський (@ZelenskyyUa) January 14, 2023
Mae'r datblygiad yn golygu mai'r DU fyddai'r grym Gorllewinol cyntaf i gyflenwi tanciau i Wcráin.
Mae lluoedd Rwsia wedi hawlio buddugoliaeth yn y frwydr dros reolaeth o dref Soledar yn rhanbarth Donetsk yn nwyrain Wcráin.
Mae brwydro ffyrnig wedi digwydd yno ers wythnosau rhwng lluoedd y Kremlin a byddin Wcráin.
Wfftio'r newyddion wnaeth arlywydd Wcráin, Volodomyr Zelensky, yn ystod ei anerchiad nosweithiol i'r wlad nos Wener, gan ddweud:
“Mae’r frwydr galed dros ranbarth Donetsk yn parhau. Mae’r frwydr dros Bakhmut a Soledar, am Kreminna, dros drefi a phentrefi eraill yn nwyrain ein gwlad yn parhau.
“Er bod y gelyn wedi canolbwyntio ei luoedd mwyaf i’r cyfeiriad hwn, mae ein milwyr – Lluoedd Arfog Wcráin, ein holl luoedd amddiffyn a diogelwch – yn amddiffyn y wladwriaeth,” meddai.
Llun: Y Weinyddiaeth Amddiffyn