Noel Gallagher a'i wraig Sara MacDonald i ysgaru
Mae'r cerddor Noel Gallagher a'i wraig Sara MacDonald wedi cyhoeddi eu bod yn ysgaru.
Dywedodd y cwpl, sydd wedi bod yn briod ers 2011, fod eu plant “yn parhau i fod yn flaenoriaeth iddynt” ac wedi gofyn am breifatrwydd.
Fe wnaeth y ddau gyfarfod yn 2000 tra bod cyn-gitarydd a chyfansoddwr y band Oasis yn briod â Meg Matthews, cyn iddo ysgaru Ms Matthews ym mis Ionawr 2001.
Fe briododd Noel Gallagher a Mrs MacDonald mewn seremoni breifat ym mis Mehefin 2011 ac mae ganddyn nhw ddau o blant, Donovan a Sonny.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd wrth asiantaeth newyddion PA: “Mae llefarydd ar ran Noel Gallagher a Sara Macdonald wedi cadarnhau bod y cwpl am ysgaru.
“Bydd Noel a Sara gyda’i gilydd yn parhau i ofalu am eu plant sy’n parhau’n flaenoriaeth iddynt.
“Mae Noel a Sara yn gofyn i’r cyfryngau barchu eu preifatrwydd ar hyn o bryd.”
Llun: PA