Newyddion S4C

Chwaraewr Man City yn ddi-euog o ymosodiadau rhyw

13/01/2023
Benjamin Mendy

Mae'r pêl-droediwr Benjamin Mendy, wedi ei ganfod yn ddi-euog o ymosodiadau rhyw ar bedair dynes, wrth i reithgor fethu â dod i benderfyniad ar ddau achos arall yn dilyn achos llys sydd wedi para am chwe mis.

Roedd y chwaraewr 28 oed o glwb Manchester City, wedi gwynebu chwe cyhuddiad o dreisio ac un cyhuddiad o ymosodiad rhyw, yn ymwneud â phedwar person ifanc yn eu harddegau.

Cafodd y rheithfarnau unfrydol eu cyflwyno ddydd Mercher gan y saith dyn a phedair dynes, ac roedd un aelod o'r rheithgor wedi'i rhyddhau'n gynharach am resymau meddygol.

Ond ar ôl 14 diwrnod o drafod, ni allai rheithgor ddod i benderfyniad.

Rhyddhaodd y Barnwr Everett y rheithgor ddydd Gwener, gan ddod â'r achos i ben.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.