Newyddion S4C

Dirwy o filoedd i British Airways ar ôl i weithiwr gael anaf difrifol ger Maes Awyr Caerdydd

ITV Cymru 13/01/2023
British Airways

Mae cwmni cynnal a chadw sy’n is-gwmni i British Airways wedi cael dirwy o £230,000 ar ôl i weithiwr ddioddef anaf difrifol i’w ymennydd ger Maes Awyr Caerdydd.

Aeth y peiriannydd Iain Mawson mewn i goma dair wythnos ar ôl iddo syrthio dau fetr wrth weithio ar Boeing 747 mewn canolfan gynnal a chadw.

Mae’r cwmni wedi pledio’n euog i drosedd iechyd a diogelwch yn sgil y ddamwain a ddigwyddodd ar safle British Airways Maintenance Cardiff (BAMC) ym mis Tachwedd 2019.

Mae BAMC yn ganolfan fawr sy'n gwneud gwaith cynnal a chadw ar holl awyrennau pellter hir Boeing British Airways.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch fod Mr Mawson, 52, yn arolygu adenydd awyren pan "syrthiodd drwy fwlch yn rheilen warchod y platfform docio lle'r oedd rhwystrau diogelwch wedi cael eu tynnu".

Ychwanegodd fod Mr Mawson wedi’i roi mewn coma am dair wythnos ar ôl dioddef “nifer fawr” o doriadau i’w benglog a gwaedlif ar yr ymennydd.

Cafodd hefyd doriadau i'w asennau, palfais, asgwrn cefn a phont yr ysgwydd. Nid yw Mr Mawson wedi gallu dychwelyd i'w waith ers hynny o ganlyniad i’r anafiadau.

Darganfyddodd archwiliad gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch fod BAMC wedi methu â “dadansoddi’r risgiau’n ddigonol ac osgoi cael gwared ar rwystrau diogelwch rheilen warchod na sicrhau bod rhwystrau diogelwch yn cael eu gosod”.

Mae is-gwmni British Airways bellach wedi cael ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Caerdydd ar ôl cyfaddef iddo fethu â sicrhau iechyd a diogelwch Mr Mawson. 

Mae'r cwmni bellach wedi cael ei orfodi i dalu dirwy o £230,000 a chostau erlyn o £21,623.

Trawmatig

Dywedodd cyfreithiwr Mr Mawson, Lisa Gunner, fod ei chleient wedi dioddef “anaf trawmatig i’w ymennydd.”

Ychwanegodd: "Er ei agwedd bositif tuag at at ei wellhad, fe fydd yn cael effaith hirdymor arno fe a'i deulu. Byddwn yn parhau i gefnogi Mr Mawson wrth iddo geisio gwella o'r anaf difrifol hwn."

Dywedodd arolygydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, Sara Lumley: “Gallai’r digwyddiad hwn fod wedi cael ei osgoi yn hawdd trwy gymryd y mesurau rheoli cywir a thrwy ddefnyddio arferion gweithio diogel yn unig.

“Dylai cwmnïau fod yn ymwybodol na fydd HSE yn oedi cyn cymryd camau priodol i sicrhau nad yw safonau’n disgyn islaw’r rhai gofynnol.”

Dywedodd llefarydd ar ran British Airways: “Diogelwch yw ein prif flaenoriaeth bob amser ac er gwaetha’r prosesau oedd gennym ni, rydym ni’n difaru’n fawr bod hyn wedi gallu digwydd.

"Rydym wedi gweithio'n galed i ddysgu o'r profiad hwn ac wedi gweithredu ar welliannau pellach i'n mesurau a gweithdrefnau diogelwch."

Llun: Wikimedia Commons

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.