Cymeradwyo cynnig ar gyfer safle tyrbin gwynt ar Ynys Môn
Mae cynnig ar gyfer safle tyrbin gwynt yn Llanfairynghornwy ar Ynys Môn wedi cael ei gymeradwyo.
Er hyn, mae rhai yn pryderu am yr effaith y mae hyn yn mynd i'w gael ar dwristiaeth.
Cafodd y cais ei gyflwyno gan John EH Roberts ar gyfer tyrbin 5kW ar safle Pendref.
Derbyniodd Cyngor Sir Ynys Môn bedwar gwrthwynebiad i'r cynlluniau yn Llanfairynghornwy, sydd mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE).
Roedd y gwrthwynebiadau yn cynnwys yr effaith ar yr AHNE, effaith ar lety gwyliau Maes Gwersylla Pencraig a golygfeydd yn cael eu colli.
'Derbyniol'
Er hyn, cafodd cynlluniau Mr Roberts eu cymeradwyo, gyda'r pwyllgor cynllunio yn dod i'r farn fod graddfa a lleoliad y datblygiad a'i bellter i eiddo cyfagos yn "dderbyniol."
Yn ôl y swyddog cynllunio, ni fyddai'n "effeithio yn sylweddol" ar yr amgylchedd ehangach.
Ychwanegodd fod y cynllun yn cael ei ystyried yn "gynaliadwy" yn unol â'r syniad 'Ynys Ynni'.
Dywedodd Mr Roberts fod y tyrbin wedi cael ei "leoli'n ofalus i ffwrdd o'r cymdogion cyfagos" ar lethr yn mynd ar ei lawr, gyda chaeau a ffensys fel cefndir er mwyn osgoi unrhyw effaith ar olygfeydd.
"Pan bydd cymdogion yn ei weld, rydym yn gobaith na fydd y tyrbin yn effeithio ar rinweddau arbennig yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, sef heddwch, llonyddwch a golygfeydd," meddai.