Lisa Marie Presley wedi marw yn 54 oed
Mae Lisa Marie Presley, unig blentyn y canwr Elvis Presley, wedi marw yn 54 oed.
Mewn datganiad, dywedodd ei theulu eu bod nhw mewn "sioc a'u calonnau wedi torri" yn sgil y newyddion ddydd Iau.
Cafodd ei rhuthro i'r ysbyty ar gyfer triniaeth yn gynharach ddydd Iau yn dilyn adroddiadau ei fod wedi cael ataliad ar y galon.
Daw hyn ddeuddydd yn unig wedi iddi ymddangos yng ngwobrau y Golden Globes, lle enillodd Austin Butler y wobr am yr actor gorau am ei bortread o Elvis.
Wrth siarad cyn y gwobrau, dywedodd ei bod wedi ei "llethu" gan y ffilm a'i heffaith.
"Dwi mor falch a dwi'n gwybod y byddai fy nhad yn falch iawn hefyd," meddai.
Dywedodd ei mam, Priscilla Presley, mai hi oedd y "ferch fwyaf angerddol, cryf a chariadus i mi ei hadnabod erioed."
Fel ei thad, a fu farw pan oedd ei ferch yn 9 oed, roedd Lisa Marie Presley yn gantores ac fe wnaeth hi ryddhau tri albwm.
Y llynedd, ysgrifennodd am y "realiti ofnadwy" o'i galar yn dilyn hunanladdiad ei mab, Benjamin, yn 2020.
"Rwyf wedi delio â marwolaeth, galar a cholled ers yn 9 oed," meddai.
Roedd yn briod bedair gwaith, ac mae'n gadael ei phlant Riley, Harper a Finley.