Newyddion S4C

Cyhuddo dyn 22 oed o lofruddio Elle Edwards

13/01/2023
Elle Edwards

Mae dyn 22 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Elle Edwards. 

Bu farw Ms Edwards, 26, ar ôl cael ei saethu yn ei phen yn y Lighthouse Inn ym Mhentref Wallasey toc wedi 23:50 ar 24 Rhagfyr.

Cafodd Connor Chapman, 22, ei gyhuddo o lofruddiaeth yn ogystal â dau gyhuddiad o geisio llofruddio, tri chyhuddiad o anafu anghyfreithlon gyda'r bwriad o wneud niwed corfforol difrifol a chyhuddiad o fod ag arf yn ei feddiant. 

Mae'n parhau yn y ddalfa a bydd yn ymddangos o flaen y llys ar Lannau Mersi ddydd Gwener. 

Wrth dalu teyrnged iddi, dywedodd ei theulu mai hi oedd y "glud" yn y teulu. 

"Doedd neb mor brydferth â'n Elle May ni.

"Roedd ganddi ffordd o sicrhau fod pawb yn cwympo mewn cariad â hi yn syth, roedd pawb a wnaeth ei chwrdd yn gwybod pa mor arbennig oedd hi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.