Caerdydd ymysg y cynghorau sy'n rhoi'r nifer fwyaf o ddirwyon parcio yn y DU
Cyngor Caerdydd yw un o'r cynghorau sy'n rhoi'r nifer fwyaf o ddirwyon parcio yn y DU y tu allan i Lundain.
Yn ôl data gan Churchill Motor Insurance, ar gyfartaledd mae 279 o ddirwyon parcio yn cael eu rhoi pob diwrnod yng Nghaerdydd.
Daw hyn wrth i'r ffigyrau newydd ddangos bod bron i 20,000 o ddirwyon parcio wedi cael eu dosbarthu pob dydd yn y DU yn 2022.
Mae hyn yn gynnydd o 12% i gymharu â 2021, gan gynhyrchu dros £750,000 i awdurdodau lleol pob dydd.
Cynghorau o fewn Llundain sydd yn dosbarthu'r nifer fwyaf o ddirwyon. Cyngor Islington sydd ar y brig am ddosbarthu'r nifer fwyaf yn y DU, gan roi 1,012 o ddirwyon pob dydd ar gyfartaledd.
Tu allan i Lundain, Cyngor Caerdydd, Cyngor Birmingham (373 dirwy y dydd) a Chyngor Southampton (313) sydd yn dosbarthu'r nifer fwyaf.
Er hyn, nid dirwyon gan gynghorau yn unig y mae’n rhaid i yrwyr fod yn wyliadwrus ohonynt.
Yn ôl ffigyrau newydd, fe wnaeth cwmnïau preifat ddosbarthu bron i 30,000 o ddirwyon parcio bob dydd rhwng mis Ebrill a mis Mehefin y llynedd. Mae hyn yn gynnydd o 50% i gymharu â'r un cyfnod yn 2021.
Dywedodd Steve Gooding, cyfarwyddwr o'r sefydliad RAC, er bod rheolau parcio yn bwysig, mae'r cynnydd mewn dirwyon yn ymddangos yn hurt wrth ystyried yr argyfwng costau byw.
"Mae rheolau parcio yna am reswm, ond mewn cyfnod lle mae teuluoedd o dan gymaint o bwysau, mae'n rhaid gofyn a ydy miliynau o yrwyr yn cael eu cosbi am barcio gwael.
"Neu ydy dirwyon yn cael eu dosbarthu yn rhy hawdd, gan beryglu ein hamcanion i adfywio ein strydoedd mawr."
Dywedodd llefarydd ar ran yr Asiantaeth Llywodraethu Leol, sydd yn cynrychioli awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, bod yr incwm sy'n dod o ddirwyon yn cael ei ddefnyddio i gynnal gwasanaethau parcio.
"Mae unrhyw incwm sy'n weddill yn cael ei ddefnyddio ar brosiectau trafnidiaeth hanfodol, fel trwsio ffyrdd, lleihau tagfeydd, taclo ansawdd aer gwael a chefnogi gwasanaethau bws lleol."