‘Risg i anfon cleifion adref heb becyn gofal’ yn ôl Gweinidog Iechyd
‘Risg i anfon cleifion adref heb becyn gofal’ yn ôl Gweinidog Iechyd
Mae Gweinidog Iechyd Cymru yn cyfaddef bod yna “risg” o anfon cleifion adref o’r ysbyty heb becyn gofal.
Daw hyn ar ôl i fyrddau iechyd dderbyn llythyr gan Lywodraeth Cymru yn dweud dylai ysbytai ystyried anfon cleifion adref heb becyn gofal er mwyn rhyddau mwy o welyau.
Roedd y llythyr hefyd yn egluro bod y gwasanaeth iechyd yn wynebu “pwysau digynsail” yn sgíl covid, yn ogystal â feirysau anadlol eraill.
Mewn cyfweliad â rhaglen wleidyddol Y Byd yn ei Le, gofynnwyd i Eluned Morgan a oedd y “risg” hwnnw yn un allai beryglu bywyd - dywedodd y Gweinidog Iechyd ei bod hi “wedi bod yn glir gyda’r ysbytai eich bod chi ddim fod anfon rhywun adref os nag y’n nhw’n glingol yn barod i fynd.”
Ychwanegodd: “Beth sydd angen inni wneud yw cael llywodraeth leol i gamu mewn i wneud yn siŵr ei bod hefyd yn cymryd cyfrifoldeb ar gyfer y risg yma sydd yn gorwedd, efallai gormod, gyda’r gwasanaeth iechyd.”
Bydd y cyfweliad llawn ar Y Byd yn ei Le, nos Iau, 21.00 ar S4C.
Llun: ITV Cymru Wales