Newyddion S4C

'Hanner o bobl yn bryderus am eu gallu i dalu rhent neu forgais'

13/01/2023
tai

Mae tua hanner y bobl sy'n rhentu neu'n talu morgeisi yn poeni am eu gallu i dalu eu costau tai ymhen blwyddyn, yn ôl ymchwil newydd. 

Yn ôl arolwg barn gan y Ganolfan Effaith Digartrefedd (CHI), mae 52% o rentwyr a 49% o bobl â morgeisi yn poeni am allu talu eu costau tai o fewn y 12 mis nesaf.

Ymhlith pobl rhwng 16 a 24 oed, roedd 44% yn bryderus am eu gallu i dalu eu rhent neu forgais ar hyn o bryd.

Gostyngodd y ffigwr i 31% ymysg pobl 35-54 oed ac i 14% ymysg rhai 55-75 oed.

Dywedodd hanner y bobl yn eu 50au fod costau tai yn effeithio ar eu hiechyd meddwl, gan godi i 62% o’r rhai rhwng 16 a 34 oed.

Costau Cymru

Fe welodd Cymru rai o’r cynnydd mwyaf ym mhrisiau tai yn y DU dros y dair blynedd diwethaf, wrth i brisiau godi 26.3% yn ôl ystadegau Llywodraeth y DU.

Yn ôl ystadegau diweddar Mynegai Prisiau Tai Cymru, roedd pris tŷ yng Nghymru ar gyfartaledd yn costio £223,824, sydd yn gynnydd o 11.8% i gymharu â llynedd. 

Ond, mae cwmni tai Savills yn rhagweld cwymp o 8.5% ym mhrisiau tai yng Nghymru yn 2023.

Dywedodd Dr Ligia Teixeira, prif weithredwr CHI, ei bod yn “bryderus iawn” bod mwy na hanner y tenantiaid yn poeni am eu gallu i dalu rhent mewn blwyddyn.

“Mae digartrefedd yn broblem gymhleth ar lefel system ond mae tai fforddiadwy, yn enwedig i bobl ar incwm isel neu sy’n wynebu pwysau ariannol, yn ganolog i atal digartrefedd," meddai.

“Mae fforddiadwyedd tai hefyd yn allweddol i helpu pobl i ailadeiladu eu bywydau mewn llety sefydlog i symud ymlaen o ddigartrefedd am byth.

“Mae’r argyfwng costau byw mewn perygl o wrthdroi sawl blwyddyn o gynnydd o ran lleihau digartrefedd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.