Tîm hoci Cymru yn 'gyffrous ond nerfus' ar drothwy Cwpan y Byd
Tîm hoci Cymru yn 'gyffrous ond nerfus' ar drothwy Cwpan y Byd
Mae aelodau tîm hoci dynion Cymru yn "gyffrous ond nerfus" wrth iddynt baratoi ar gyfer eu Cwpan y Byd cyntaf erioed.
Fe fydd Cymru yn dechrau ei hymgyrch yn erbyn Lloegr ddydd Gwener, cyn mynd ymlaen i wynebu India a Sbaen.
Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn India, a dyma'r tro cyntaf i'r dynion gyrraedd Cwpan y Byd yn ogystal â'r tro cyntaf mewn 40 mlynedd i unrhyw dîm o Gymru gystadlu yn y bencampwriaeth.
Yn ôl Ioan Wall, sydd yn chwarae fel amddiffynnwr i Gymru, mae'r garfan yn llawn cyffro ar drothwy eu gêm gyntaf.
"Dwi'n meddwl fod pawb yn gyffrous, ond hefyd bach yn nerfus," meddai.
"Ni'n edrych ymlaen a gobeithio bydd yna growd digon mawr yn dod i wylio."
Mae'r daith i gyrraedd y llwyfan mwyaf wedi bod yn un hir i Ioan a gweddill tîm Cymru.
Llwyddodd Cymru i guro Iwerddon o drwch blewyn ym mis Hydref y llynedd, gan ennill ar giciau o'r smotyn wedi i'r gêm orffen yn gyfartal.
Yn ôl Ioan, mae cyrraedd Cwpan y Byd hefyd wedi bod yn heriol yn bersonol i nifer o chwaraewyr. Nid yw rhan fwyaf o'r garfan yn chwarae yn broffesiynol ac felly yn aberthu llawer o'u hamser ac arian personol er mwyn chwarae dros Gymru.
"Mae wedi bod bach yn anodd, dim ond dau berson yn y garfan sydd yn chwarae yn broffesiynol," meddai Ioan.
"Mae gan bawb arall swyddi so gyda popeth mae'n rhaid i bobl gymryd amser off gwaith."
"Mae wedi bod yn anodd ond mae'n dangos faint mae pobl yn rhoi lan i chwarae."
Gyda chyn lleied o adnoddau i gymharu â gwledydd eraill, mae Cymru yn wynebu her fawr i gyrraedd rowndiau terfynol y gystadleuaeth.
Bydd rhaid i'r dynion mewn coch frwydro trwy un o'r grwpiau anoddaf yn y bencampwriaeth, gyda Lloegr, India a Sbaen i gyd yn wyth uchaf rhestr detholion y byd.
Ond mae Ioan yn dweud fod y garfan yn gallu edrych ar rai o dimau chwaraeon eraill Cymru fel ysbrydoliaeth.
"Mae bach fel y pêl-droed!"
"Ni'n wlad mor fach i gymharu â gwledydd eraill ond mae'n dangos fod gwledydd bach yn gallu cystadlu gyda'r gwledydd mawr."