Gallai heddlu’r gogledd wneud mwy i ymchwilio i hela llwynogod - adroddiad
Fe allai Heddlu Gogledd Cymru weithiau wneud mwy i ymchwilio i achosion o hela llwynogod, yn ôl adroddiad.
Daeth adroddiad annibynnol gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru i’r casgliad fod “meddylfryd ymchwiliol yn absennol mewn gormod o achosion sy’n cael eu hadrodd i’r heddlu”.
Cafodd yr adroddiad gan Brifysgol Glyndŵr ei gomisiynu ym mis Mai y llynedd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Andy Dunbobbin.
Canfu yr adroddiad fod gweithredoedd Heddlu Gogledd Cymru yn gyson ag arfer da yn gyffredinol, ond roedd hefyd yn cynnwys set o argymhellion i’r Heddlu ar sut mae’n plismona hela ar draws y rhanbarth.
Nododd hefyd fod canfyddiad cyffredinol bod yr heddlu’n rhagfarnllyd o blaid y rhai a oedd yn ymwneud â hela wedi’i adrodd gan bron bob un o’r grwpiau a oedd yn ymwneud ag ymgyrchoedd gwrth-hela ac yr effeithiwyd arnynt gan hela.
Er hynny roedd hefyd yn pwysleisio bod Heddlu Gogledd Cymru, yn y 12 mis yn arwain at yr adolygiad, wedi bod yn “adnewyddu ei ddull gweithredu a’i arferion sy’n gysylltiedig â chynnal y gwaharddiad ar hela a’r digwyddiadau sy’n gysylltiedig ag ef”.
Bydd Heddlu Gogledd Cymru yn adolygu’r canfyddiadau ac yn dychwelyd at y Comisiynydd Heddlu a Throsedd gyda chynllun ar sut i weithredu’r argymhellion.
Dywedodd yr Athro Iolo Madoc Jones o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam: “Mae honiadau o hela llwynogod yn anghyfreithlon yn cael eu hymchwilio mewn modd cymesur ar hyn o bryd.”
Llun: Hela. Llun gan Henrik Jessen (CC-BY-SA-2.5).