Newyddion S4C

Warren Gatland yn penodi King a Forshaw yn hyfforddwyr newydd

12/01/2023
Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland. Llun gan URC

Mae prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi penodi Alex King a Mike Forshaw i gymryd lle Stephen Jones a Gethin Jenkins fel hyfforddwyr.

Bydd King yn dychwelyd i’r rôl hyfforddwr ymosod a lenwodd dros dro yn 2017 pan oedd Gatland yn brif hyfforddwr y Llewod.

Mae Forshaw yn cyrraedd o Sale a bydd yn cymryd lle hyfforddwr yr amddiffynwyr, Gethin Jenkins.

Bydd King a Forshaw yn ymuno â Jonathan Humphreys a Neil Jenkins, sydd wedi parhau yn hyfforddwr wedi i Gatland dychwelyd fel hyfforddwr ar ddechrau mis Rhagfyr

Roedd King, 47, yn flaenorol yn rhan o dîm yr ystafell gefn o dan Rob Howley, a oedd hefyd yn un o'r ffefrynnau i ddychwelyd fel hyfforddwr ymosod.

Chwaraeodd ochr yn ochr â Howley o dan Gatland gyda thîm Wasps ac roedd yn rhan o'u timau a enillodd Gwpan Heineken yn 2004 a 2007.

Gadawodd King i ymuno â Clermont o Ffrainc yn 2007, cyn symud i hyfforddi Northampton yn 2013.

Roedd yn rhan o’r staff ystafell gefn oedd wedi arwain y Seintiau i deitl yr Uwch Gynghrair y flwyddyn ganlynol cyn gadael Northampton i gymryd swydd gyda Montpellier, ar ôl bod yn rhan o dîm hyfforddi Cymru dros dro.

Ar ôl cyfnod o dair blynedd yn Ffrainc, ymunodd King â Chaerloyw cyn gadael yn haf 2022.

Bydd y ddau hyfforddwr yn cael rhai wythnosau i ddod i'r arfer gyda'r garfan cyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.