'Gwarthus': Gwleidyddion yn beirniadu wedi i fideo pryd ar glud ledaenu ar-lein
Mae gwleidyddion wedi beirniadu'r modd y cafodd dynes oedrannus ei thrin gan wasanaeth Pryd ar Glud yng Nghaerffili.
Roedd fideo o ledaenodd ar-lein yn dangos un o weithwyr Pryd ar Glud yn trafod gwrthod diod i Jane McTighe o Lanbradach ar y ffôn gyda’i goruchwyliwr, sy’n rhegi yn ystod y sgwrs.
Cafodd y fideo o 23 Rhagfyr ei gyhoeddi ar Facebook gan un o’i hwyrion, Lewis Jones.
Mewn neges ar-lein meddai: “Pryd ar glud yn gwrthod diod i fy Mam-gu… Dyw’r camerâu wedi’u cuddio ac mae’n amlwg bod teledu cylch cyfyng yn y fflat.
“Galwad ffôn yw hon i’w goruchwyliwr ynglŷn â beth i’w wneud yn lle rhoi diod iddi. Rwy’n deall nad yw’n angenrheidiol ond roedd hi wedi cynhyrfu ar ôl clywed y sgwrs.”
‘Gwarthus’
Ymddiheurodd prif weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili pan ddaeth y fideo i’r amlwg, gan ddweud ei fod yn “gwbl annerbyniol”.
Mae Wayne David, AS Caerffili, bellach wedi galw ar y cyngor i ddarparu gwell gwasanaeth ar gyfer Jane McTighe.
“Roeddwn i’n meddwl bod beth ddigwyddodd yn warthus ac rydw i wedi ysgrifennu ar brif weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili er mwyn datgan fod gen i bryderon mawr nad oedd pecyn gofal cynhwysfawr ar gael i’r fenyw,” meddai.
“Nid dyma’r safon gofal y dylai'r cyngor fod yn ei ddarparu.”
Ychwanegodd: “Yr hyn oedd yn warthus oedd yr ieithwedd a ddefnyddiwyd gan y goruchwyliwr. Ni ddylai unrhyw un fod yn defnyddio iaith o’r fath yn y gweithle - roedd yna ddiffyg proffesiynoldeb.”
Llun: Rhan o'r fideo a gyhoeddwyd ar Facebook