Y gitarydd Jeff Beck wedi marw'n 78 oed
Mae’r gitarydd Jefff Beck wedi marw yn 78 oed.
Daeth y cerddor o Loegr i amlygrwydd gyda’r band roc The Yardbirds ac aeth ymlaen i gael gyrfa lwyddiannus gan arwain y Jeff Beck Group a Beck, Bogert & Appice.
Cafodd marwolaeth Beck ei gadarnhau ar ei dudalen Twitter swyddogol nos Fercher.
“Ar ran ei deulu, gyda thristwch dwfn a dwys rydyn ni’n rhannu’r newyddion am farwolaeth Jeff Beck,” meddai’r datganiad.
"Ar ôl dal llid yr ymennydd bacteriol yn sydyn, bu farw'n dawel ddoe. Mae ei deulu'n gofyn am breifatrwydd wrth iddynt brosesu'r golled aruthrol hon."
Cafodd y gitarydd arloesol Geoffrey Arnold Beck ei eni yn Wallington, Lloegr a datblygodd angerdd am gerddoriaeth pan yn blentyn.
Roedd amser Beck gyda’r Yardbirds yn fyr, gan bara bron i ddwy flynedd yn unig cyn iddo ddechrau ar yrfa unigol.
Rhyddhaodd Beck ei sengl unigol gyntaf, Hi Ho Silver Lining, ym 1969.
Ar ôl mwynhau llwyddiant i ddechrau fel artist unigol, ffurfiodd Beck The Jeff Beck Group, oedd yn wreiddiol yn cynnwys Rod Stewart fel lleisydd, Ronnie Wood ar y gitar fas, Nicky Hopkins ar y piano ac Aynsley Dunbar ar y drymiau.
With the death of Jeff Beck we have lost a wonderful man and one of the greatest guitar players in the world. We will all miss him so much. pic.twitter.com/u8DYQrLNB7
— Mick Jagger (@MickJagger) January 11, 2023
Chwaraeodd hefyd ar albwm Mick Jagger yn 1987, Primitive Cool, ac yn ddiweddarach gweithiodd gydag artistiaid fel Roger Waters a Jon Bôn Jovi.
Wrth dalu teyrnged iddo fe rannodd Syr Mick Jagger fideo o'r ddau yn chwarae gyda'i gilydd, gan ddweud bod cerddoriaeth wedi colli "un o chwaraewyr gitâr gorau'r byd" a "byddwn i gyd yn ei golli gymaint".