Newyddion S4C

Gwesty oedd yn cartrefu ceiswyr lloches dros dro yn Eryri i ailagor i gwsmeriaid

12/01/2023
Hilton Eryri

Mae gwesty yn Eryri oedd yn gartref dros dro i geiswyr lloches wedi cyhoeddi y bydd yn ailagor i gwsmeriaid o ddechrau mis Chwefror ymlaen.

Mewn datganiad ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd gwesty'r Hilton Garden Inn ar safle Adventure Parc Eryri yn Nyffryn Conwy y byddai modd i westeion ddychwelyd o 6 Chwefror ymlaen.

"Mae’r amser rydyn ni i gyd wedi bod yn aros amdano wedi dod o’r diwedd… rydyn ni’n gyffrous iawn i ddechrau ar bennod newydd yn ein stori Eryri. Bydd yr Hilton Garden Inn Eryri yn croesawu gwesteion yn ôl o 6 Chwefror 2023.

"Rydyn ni wedi treulio’r ychydig fisoedd diwethaf yn cynllunio rhai pecynnau, hyrwyddiadau a phrofiadau anhygoel i chi wneud y gorau o’ch arhosiad nesaf yn Eryri.

Diolch am eich cefnogaeth ddiddiwedd, rydym yn gyffrous iawn i'ch croesawu yn ôl yn fuan" meddai datganiad y gwesty.

Ym mis Tachwedd y llynedd fe ddaeth y Swyddfa Gartref dan y lach gan rhai gwleidyddion lleol yn yr ardal, ar ôl agor ei ddrysau i geiswyr lloches.

Ar y pryd, dywedodd Robin Millar, yr aelod seneddol Ceidwadol dros Aberconwy, ei fod yn "bryderus ynghylch addasrwydd yr eiddo hwn, yn y lleoliad hwn, at y diben hwn. Gwesty ydyw nid canolfan gadw. Mae ar safle ynysig ac nid yw'n cael ei gefnogi gan y gwasanaethau priodol."

Dywedoddd hefyd ei fod yn bryderus am ddiffyg rhybudd a chyfathrebu gwael a'r effaith ar gymunedau yn Nolgarrog ac ar hyd Dyffryn Conwy, ac roedd wedi cysylltu â’r Gweinidog yn y Swyddfa Gartref sy’n gyfrifol am eglurhad a pherchennog y gwesty am ragor o wybodaeth.

Mewn datganiad yn ymateb i'w bryderon, dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref fod y defnydd o westai i gartrefu ceiswyr lloches "yn annerbyniol" a bod mwy na "37,000 o geiswyr lloches mewn gwestai sy’n costio £5.6miliwn y dydd i drethdalwyr y DU.

"Ateb tymor byr yw defnyddio gwestai ac rydym yn gweithio’n galed gydag awdurdodau lleol i ddod o hyd i lety priodol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.