Newyddion S4C

Llofruddiaeth Elle Edwards: Dyn wedi ei arestio yn dilyn ymholiadau yn y canolbarth

11/01/2023
Elle Edwards

Mae dyn 22 oed wedi'i arestio ar amheuaeth o lofruddio Elle Edwards mewn tafarn yn Lerpwl ar Noswyl Nadolig. 

Dywedodd Heddlu Glannau Mersi eu bod wedi arestio'r dyn o Gilgwri yn dilyn ymholiadau yng nghanolbarth Cymru. 

Mae dynes 23 oed o Gilgwri hefyd wedi'i harestio ar amheuaeth o roi cymorth i droseddwr. 

Bu farw Ms Edwards, 26, ar ôl cael ei saethu yn ei phen yn y Lighthouse Inn ym Mhentref Wallasey toc wedi 23:50 ar 24 Rhagfyr.

Mae tri o bobl arall eisoes wedi'u harestio mewn cysylltiad gyda'r digwyddiad. 

Cafodd dyn 30 oed o Tranmere ei arestio ar amheuaeth o lofruddio a cheisio llofruddio, ac mae bellach wedi dychwelyd i'r carchar wedi iddo dorri amodau ei drwydded. 

Cafodd dyn 31 oed o Tranmere a dynes 19 oed o Rock Ferry hefyd eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio. Mae'r ddau bellach wedi'u rhyddhau ar fechnïaeth. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.