Newyddion S4C

Glaw trwm yn achosi llifogydd, toriadau trydan a thrafferthion i deithwyr

12/01/2023

Glaw trwm yn achosi llifogydd, toriadau trydan a thrafferthion i deithwyr

Mae glaw trwm yn achosi llifogydd, toriadau trydan a thrafferthion i deithwyr mewn rhannau o Gymru ddydd Iau

Collodd tua 600 o dai drydan am gyfnod ddydd Iau meddai'r Grif Cenedlaethol.

Bellach mae 75 o rybuddion llifogydd wedi eu cyhoeddi gyda'r mwyafrif yn y dwyrain a'r de ddwyrain.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru mai yn Rhondda Cynon Taf oedd y llifogydd ar eu gwaethaf.

Fe ddaeth rhybudd melyn am ragor o law i rym am 21:00 nos Fercher ac fe fydd yn para hyd at 17:00 ddydd Iau, gan effeithio ar nifer o siroedd yn y de a'r gorllewin. 

Daw hyn yn ystod cyfnod o dywydd gwlyb i Gymru, wedi i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd melyn arall am law ddydd Mawrth. 

Mae'r swyddfa yn rhybuddio bod llifogydd i rai cartrefi a busnesau yn debygol ac y gallai gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a theithiau ceir gael eu hoedi gan gyflwr y ffyrdd.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi rhybuddio y bod nifer o wasanaethau trenau yn y de yn cael eu heffeithio gan lifogydd ar lwybrau. 

Mae ffordd yr A483, Llanfair-ym-Muallt wedi cau i'r ddau gyfeiriad ac mae ffordd yr A470 rhwng Aberhonddu (Dwyrain) i Llys-wen ar gau oherwydd llifogydd. 

Mae yna hefyd bosibilrwydd y gall cyflenwadau pŵer a gwasanaethau eraill gael eu hamharu gan y glaw. 

Mae 16 o siroedd wedi eu heffeithio gan y rhybudd melyn: 

  • Blaenau Gwent 
  • Ceredigion 
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Caerffili
  • Caerdydd
  • Sir Gaerfyrddin
  • Merthyr Tudful
  • Sir Fynwy
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Casnewydd
  • Sir Benfro
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Abertawe
  • Torfaen
  • Bro Morgannwg 

 

'Ymchwiliad'

Dywedodd Heledd Fychan, Aelod o'r Senedd dros Ganol De Cymru, nad oedd y llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn "anochel". 

"Rwy'n bryderus iawn am gartrefi a busnesau ledled Canol De Cymru a thu hwnt," meddai. "Ni all pobl barhau i fyw mewn ofn bob tro y cawn ni law trwm.

"Mae tywydd drwg yn anochel, ond does dim rhaid i lifogydd fod. 

"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gynllunio ar gyfer y glaw trwm, ac annog ein Cynghorau, fel Rhondda Cynon Taf, i ddeall yn well sut i osgoi llifogydd ac i gefnogi cymunedau.

"Dro ar ôl tro, gwrthododd Llywodraeth Cymru gynnal ymchwiliad annibynnol i lifogydd dinistriol 2020. Mae Plaid Cymru wedi sicrhau adolygiad, a byddaf yn cyflwyno tystiolaeth gan gymunedau ar draws Canol De Cymru yn hwyrach eleni, ond dylai'r gwaith hwn fod wedi digwydd yn syth ar ôl mis Chwefror 2020.

"Mae'n rhaid dysgu gwersi, a hynny ar frys."

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda Llywodraeth Cymru am ymateb.

Llun: Llifogydd yn Llanbedr-y-fro. Llun gan Vic Nicholls

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.