'Nifer wedi eu hanafu' gan ddyn ym Mharis
11/01/2023
Mae dyn wedi ymosod ar nifer o bobl mewn gorsaf drenau ym Mharis.
Cafodd chwech o bobl eu hanafu yn ystod yr ymosodiad yn Gare du Nord tua 06:40 fore Mercher, gan gynnwys un gydag anafiadau difrifol.
Cafodd yr ymosodwr ei saethu sawl gwaith gan yr heddlu a'i gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Yn ôl yr heddlu dyw cymhelliant y dyn ddim yn glir ar hyn o bryd.
Mae'r orsaf yn un o'r rhai prysuraf ym Mharis, ac yn gysylltiad allweddol rhwng Paris, Llundain a gogledd Ewrop.
Daw hyn lai na mis wedi i dri gael eu lladd yn dilyn ymosodiad yng nghanol y brifddinas.